6. Dadl: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:33 pm ar 11 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 6:33, 11 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid imi ddweud, Llywydd, rwy'n meddwl ei bod yn rhyfeddol bod y Llywodraeth yn beio'r gwrthbleidiau os na allan nhw gyflawni eu busnes. Dyna'r ddadl fwyaf hurt yr wyf i wedi'i chlywed ar unrhyw adeg yn y lle hwn. Ac rwy'n dweud hyn wrth David Melding hefyd: fe wnaeth bwynt yn gynharach, yn ystod ymyriad yn gynharach, yn dweud y byddai'n cael ei gyfarwyddo gan Frwsel—dan gyfarwyddyd Ewrop, rwy'n credu yw'r hyn a ddywedodd—o ran strwythur y cyllid hwn. Nid yw hynny'n wir. Nid yw'n wir o gwbl. Rwy'n cofio fel Gweinidog fynychu'r Cyngor Materion Cyffredinol yn Lwcsembwrg pan fyddem yn cael dadleuon ynghylch y materion hyn. Rwy'n cofio mai fy swyddogion i a helpodd i lunio rhannau o'r ddeddfwriaeth hon; mai swyddogion Llywodraeth Cymru gan weithio gyda Llywodraeth y DU, gan weithio gydag UKREP hefyd, a gynlluniodd ac a ddatblygodd y gronfa hon mewn gwirionedd. Ni fu unrhyw waith llunio polisïau anhryloyw a ddigwyddodd yn y Trysorlys nac yn Whitehall a chafwyd areithiau achlysurol gan Weinidogion. Roedd Llywodraeth Cymru yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r ddeddfwriaeth a'r polisi a ddaeth i fod oherwydd y ddeddfwriaeth honno.

Felly, o ran y ffordd yr ydym yn bwrw ymlaen â hyn, i mi, yr hyn sy'n bwysig yw nad oes gennym ddatganoli o ran darparu polisïau, ond mae gennym gydnabyddiaeth o Deyrnas Unedig amlfodd, os yw hynny'n bosibl, wrth ddatblygu polisïau. Felly, swyddogion Llywodraeth Cymru, Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn cydweithio â'n cydweithwyr yn yr Alban ac â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn Llundain, gan ddatblygu polisi a datblygu'r hyn y dylai'r gronfa fod, ac nid yw beio'r gwrthbleidiau oherwydd nad yw hynny digwydd, a bod yn onest, yn bwynt difrifol.

Ond yr hyn sydd gennym, yn hytrach na hynny, yw cuddio a chamarwain, a'r hyn sydd gennym yw rhwystro datblygiad polisi. Ac mae hynny'n digwydd o'r DU ac nid o fannau eraill, oherwydd rwy'n clywed geiriau camarweiniol Gweinidogion y DU yn dweud y byddwn yn cronni pwerau ychwanegol ar ôl unrhyw Brexit, ond nid yw'n ymddangos eu bod yn deall nac yn gwerthfawrogi beth y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw a beth y mae hynny'n ei olygu i'r modd y maen nhw'n gweithredu a sut y maen nhw'n datblygu eu polisi. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu sicrhau bod gennym gronfa ffyniant gyffredin nad yw'n adlewyrchu dymuniadau Llundain, ond anghenion y Deyrnas Unedig.

Y pwynt olaf sydd gen i yw hyn: bydd llawer ohonom ni wedi gweld ffigurau yn cael eu cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe a gynhyrchwyd gan yr Huffington Post, a oedd yn ceisio rhoi enghraifft, hyd y gallwn i ei weld, o sut y byddai gwahanol rannau'r undeb yn ymdopi pe byddai'r gronfa ffyniant gyffredin hon yn cael ei dosbarthu yn ôl methodolegau ariannu presennol. A'r hyn a oedd fwyaf brawychus ynghylch y ffigurau hyn, oedd nid yn unig colli cyllid i Gymru a throsglwyddiad net arian o Gymru i rannau cymharol gefnog o'r Deyrnas Unedig, ond bod y trosglwyddiadau cyllid hyn yn adlewyrchu polisi presennol y DU a dull presennol y DU, bod cyllid yn llifo o'r tlawd i'r cyfoethog, o'r di-rym i'r pwerus ac o'r cyrion i'r canol. Beth y mae hyn yn ei ddweud wrthym ni am ddarlun y Deyrnas Unedig o'r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd? Os yw'r DU yn golygu unrhyw beth, yna mae'n golygu nid yn unig undeb gwleidyddol, ond undeb o undod cymdeithasol lle y rhennir adnoddau, lle y dosberthir arian yn ôl yr angen a lle y ceir dosbarthu ac ailddosbarthu i'r rhannau hynny o'r Deyrnas Unedig lle mae angen y cronfeydd hynny. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sylweddoli nac yn deall hyn, ac yn sicr nid yw eu cynigion yn cydnabod hynny.

Felly, wrth gloi, Llywydd, gadewch imi ddweud hyn: prawf yw hwn yn sicr ac mae'n sicr yn brawf i'r Llywodraeth Dorïaidd hon, ond mae hefyd yn brawf, nid yn unig o'r modd y maent yn cyflawni datblygu economaidd neu ffyniant cyffredin, mae'n brawf o'u barn yn y dyfodol ar yr hyn y gall y Deyrnas Unedig fod. A ydym ni'n deulu o genhedloedd lle mae pob un yn gweithio gyda'r llall ac yn ei pharchu? Neu, ydym ni am gael gwybod beth i'w wneud a bod yn ddiolchgar am y briwsion yr ydym ni'n eu derbyn, addewidion ai peidio? I mi, mae'n rhaid i'r Deyrnas Unedig fod yn deulu o genhedloedd lle'r ydym yn gweithio gyda'n gilydd, lle'r ydym yn parchu ein gilydd. Ar hyn o bryd, mae'n amlwg nad yw'r Llywodraeth bresennol hon yn gwneud hynny.