Part of the debate – Senedd Cymru am 6:53 pm ar 11 Mehefin 2019.
Diolch. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y dystiolaeth—a fyddech chi'n derbyn bod y dystiolaeth o'r ffordd y mae eich Llywodraeth chi wedi gwario adnoddau cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn ddiffygiol iawn? Os edrychwch chi ar setliadau awdurdodau lleol, er enghraifft, ledled y wlad hon yn ystod y degawd diwethaf, fe welwch chi fod y gogledd ar ei cholled yn sylweddol o'i gymharu ag awdurdodau lleol yn y de, ac mae llawer o'r adnoddau hynny wedi'u buddsoddi mewn awdurdodau lleol a weithredir gan y Blaid Lafur, yn hytrach nag yn deg ar draws y wlad.