Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 11 Mehefin 2019.
Mae'n bleser gen i siarad o blaid y cynnig a gyflwynwyd ger ein bron heddiw oherwydd bod y pwnc hwn yn un gwirioneddol bwysig, yn ymarferol ac mewn egwyddor—yn ymarferol gan fod hyn yn ymwneud â disodli cyllid gwerth £370 miliwn i Gymru bob blwyddyn, cyllid sydd wedi'i ddefnyddio i greu degau o filoedd o swyddi newydd yng Nghymru, i gynorthwyo a sefydlu degau ar filoedd o fusnesau, i helpu pobl Cymru fel y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli yng Nghwm Cynon i ennill cannoedd ar filoedd o gymwysterau newydd, gan wneud gwahaniaethau mawr ledled Cymru ac mewn etholaethau fel fy un i, newid bywydau, rhoi cyfleoedd newydd a chefnogi'r rhai hynny sydd ei angen fwyaf. Mae'r cynnig hwn hefyd yn bwysig mewn egwyddor gan ei fod yn mynd at wraidd y setliad datganoli. Mae methiant Llywodraeth y DU i gadarnhau y bydd Cymru'n cael dweud sut y caiff unrhyw gyllid ei ddyrannu a'i wario yn anwybyddu realiti datganoli. Mae'n hollol dwp, yn ansensitif ac nid yw'n cydnabod y cyfeiriad polisi gwahanol iawn yr ydym wedi'i gymryd yma yng Nghymru.
Yma yng Nghymru, rydym yn canolbwyntio ar genedlaethau'r dyfodol ac ar agwedd economaidd gyfannol, sy'n gwrthgyferbynnu'n llwyr ag obsesiwn gwleidyddion Torïaidd San Steffan â chyni. Ond nid yw'n ymwneud â Chymru yn unig. Fel yr awgrymodd cyfranwyr eraill, mae'r ymagwedd hon yn dangos diffyg dealltwriaeth o sensitifrwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon mewn gwirionedd hefyd. Nododd y grŵp seneddol hollbleidiol ar gyllid ôl-Brexit ar gyfer rhanbarthau, gwledydd ac ardaloedd lleol yn ei ymchwiliad i'r gronfa ffyniant gyffredin nad oes unrhyw reswm anorchfygol pam y dylai Llywodraeth y DU glustnodi sut y caiff arian ei wario yn y gwledydd datganoledig. Dylai dyrannu cyllid fod yn fater datganoledig i'r cenhedloedd datganoledig. Yn bwysig, dyma oedd consensws llethol y cyfranwyr i ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r canfyddiadau hyn, ac rwy'n falch bod y cynnig yn cyfeirio at hyn.
Yn gynharach eleni, cafodd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol, yr wyf i'n gadeirydd arno, gyfle i ystyried yn fanwl ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol i'r gronfa ffyniant gyffredin. Yn wir, cafodd ei adroddiad ei lywio gan brofiadau rhanddeiliaid sy'n darparu rhaglenni cyfredol yr UE, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u harferion gorau i nodi sut y dylai unrhyw gronfa weithio yn y dyfodol, ac mae'r adroddiad hwnnw'n cynnwys llinellau coch clir. Ni ddylai Cymru gael ceiniog yn llai mewn cyllid ôl-Brexit; mae'n rhaid gwrthsefyll unrhyw ymgais gan San Steffan i gipio unrhyw arian neu bŵer. Clywsom gyfres druenus o oedi, ymraniadau a gwrthodiadau i gyfarfod, ond mae adroddiad y grŵp hollbleidiol seneddol yn amlwg yn darparu fframwaith defnyddiol wrth fwrw ymlaen ac, ar ben hynny, un sy'n cael cefnogaeth drawsbleidiol yn San Steffan. I'r perwyl hwnnw, rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cynnig heddiw yn un gwirioneddol gydweithredol. Mae hwn yn fater y mae angen i bob un ohonom fod yn unfryd yn ei gylch. Gwneir nifer o bwyntiau pwysig yn yr adroddiad hwn—a byddwn i'n annog yr holl Aelodau i'w ddarllen, os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny'n barod—gan yr Athro Steven Fothergill, sef cyfarwyddwr cenedlaethol y Gynghrair Cymunedau Diwydiannol. Edrychodd yr Athro Fothergill ar ganlyniadau tebygol, gan ailadrodd na ddylai unrhyw gyllid yn y dyfodol fod yn llai, mewn termau real, na'r ffrydiau arian presennol, y dylid cadw'r cyfrannau presennol rhwng y pedair gwlad, ac y dylai unrhyw gronfa weithredu ar sail dyraniadau amlflwydd, gyda rheolaeth a'r gallu i bennu blaenoriaethau wedi'u datganoli. Gallai gweithrediad unrhyw gronfa, meddai, gynnig cyfle gwirioneddol i ddiwallu anghenion cymunedau a adewir ar eu hôl. Ond, i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU fod yn dryloyw a pheidio â bod ofn cydnabod realiti datganoledig y DU.
Daeth llawer o randdeiliaid i'r cyfarfod grŵp trawsbleidiol hwnnw, ac roedd llawer ohonyn nhw wedi cyflwyno tystiolaeth i ymchwiliad y grŵp hollbleidiol seneddol. A dangosodd nifer y bobl gymaint o bwys ac angerdd sy'n gysylltiedig â phwnc dyfodol y gronfa ffyniant gyffredin. Yn yr un modd, mae'n rhaid mynd i'r afael â'r pwyntiau a wnaed gan randdeiliaid wrth i gynlluniau ar gyfer cronfa ddatblygu. Er enghraifft, mynegwyd pryderon bod y cynigion a ddaeth i'r amlwg yn adlewyrchu'n gryf strwythurau llywodraethu yn Lloegr yn unig. Mae angen i drefniadau partneriaeth fod yn gadarn, ac mae'n rhaid i unrhyw ddull sicrhau bod y canlyniad yn gynhwysol ac yn gyfartal. Gallai fod cyfleoedd o ran rhanbartholi cronfeydd yng Nghymru. Dylai cronfeydd fod y tu allan i fformiwla Barnett, ac mae'n rhaid i unrhyw ddyraniadau a wneir fod yn seiliedig ar ddeddfwriaeth sylfaenol. Ar y cyfan, clywodd y bobl hynny a oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnnw mor bwysig yw ymateb cyson gan Gymru, er mwyn sicrhau nad ydym ar ein colled. Mae'r cynnig heddiw'n rhan olaf o'r broses honno.
Wrth imi gloi, hoffwn ailadrodd maint yr her. Os ydym ni o dan unrhyw gamargraff ynglŷn â pha mor hanfodol yw hynny, mae'r ystadegau yn yr adroddiad gan Communities in Charge a gyhoeddwyd ddoe yn dangos hynny'n glir iawn i ni. Os nad ydym yn cyflwyno ein dadleuon yn llwyddiannus, os methwn â datblygu ein hachos, gallai Cymru golli arian sy'n cyfateb i £743.11 i bob dinesydd. Ac mae hynny'n rhywbeth na allwn ni ei dderbyn o gwbl.