Gwasanaethau Trenau yng Ngorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:35, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, wrth gwrs. Yn ogystal ag ymrwymiadau a wnaethpwyd drwy'r fasnachfraint reilffyrdd newydd a datblygiad cyfnewidfeydd trafnidiaeth integredig, rydym yn gweithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i wthio am wasanaethau ychwanegol i orllewin Cymru a buddsoddiad gan Lywodraeth y DU yn y seilwaith rheilffyrdd a fydd yn ei dro yn arwain at gapasiti ychwanegol, amseroedd teithio cyflymach, a gorsafoedd newydd wrth gwrs.