Gwasanaethau Trenau yng Ngorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 1:36, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwyf wedi codi mater gorsaf drenau Aberdaugleddau yn fy etholaeth ar sawl achlysur gyda Llywodraethau Cymru olynol dros y blynyddoedd. Nawr, mae'r orsaf drenau hon yn cael ei defnyddio gan nifer cynyddol o ymwelwyr llongau mordeithio a thwristiaid bob blwyddyn, ac er bod gwelliannau wedi cael eu haddo yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'n dirywio ar hyn o bryd ac mewn cyflwr gwael iawn. O ystyried ei phwysigrwydd strategol i sir Benfro, ac i orllewin Cymru yn wir, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i helpu i wella gorsaf drenau Aberdaugleddau yn y dyfodol?