Cysylltiadau Trafnidiaeth ym Mlaenau Gwent

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:32, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, clywais eich ateb i gwestiwn Alun Davies yn awr, ac mae'n galonogol iawn. Un o'r pryderon mwyaf a fynegwyd gan y bobl sy'n byw yng nghymunedau’r Cymoedd yn fy rhanbarth yw darpariaeth neu amlder gwasanaethau bws yn eu hardaloedd. Gall gwasanaethau cludiant cymunedol hyblyg a hygyrch chwarae rhan bwysig yn helpu pobl i gyrraedd gwasanaethau allweddol, yn enwedig pan na fydd trafnidiaeth gyhoeddus yn diwallu eu hanghenion. Weinidog, pa gynllun sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu cymorth trafnidiaeth ar gyfer gwasanaethau cludiant cymunedol, drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau i awdurdodau lleol? Diolch.