Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 12 Mehefin 2019.
Wel, mae Mohammad Asghar yn nodi pwynt hynod o bwysig am werth cludiant cymunedol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ac rydym yn glir iawn gydag awdurdodau lleol, pan fyddwn yn dosbarthu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, y dylid cadw a defnyddio rhywfaint o'r grant i gefnogi cludiant cymunedol. Bydd Mohammad Asghar hefyd yn ymwybodol o'r pecyn o ddiwygiadau y buom yn ymgynghori arnynt, a'r argymhellion ar gyfer deddfwriaeth, ac ochr yn ochr â hyn, yr amrywiol dreialon a fydd yn dechrau ledled Cymru i edrych ar drafnidiaeth ar alw. Ac yn fy marn i, gallai'r drafnidiaeth ar alw honno, yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau cludiant cymunedol, gynnig atebion ledled Cymru nad ydynt wedi cael eu defnyddio hyd yma. Ond bydd angen y diwygiadau radical a amlinellwyd yn y Papur Gwyn.