Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 12 Mehefin 2019.
Diolch i David Rees am ei gwestiwn ac rwy'n cytuno â'i bwyntiau. Yn amlwg, mae Cymru wedi cael cam ers cryn amser bellach a byddaf yn parhau i bwyso am gyllid teg gan Lywodraeth y DU, a hoffwn ofyn am gefnogaeth pob Aelod Cynulliad yn hyn o beth.
Nid wyf yn credu bod angen aros nes y gwelwn Brif Weinidog newydd i fynnu ein bod yn cael cyfrifoldebau a chyllid ar gyfer y seilwaith rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, oherwydd mae Keith Williams yn cynnal adolygiad gwraidd a brig o reilffyrdd Prydain ar hyn o bryd ac mae hwnnw'n rhoi cyfle i ddiwygio'r system reilffyrdd a gwasanaethau ledled y DU a chreu'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cwbl integredig sydd ei angen ar Gymru. Rydym yn disgwyl y bydd adolygiad Williams yn gosod llwybr clir iawn ar gyfer datganoli pellach i Gymru, ac fel y dywedais, buaswn yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth Aelodau'r Cynulliad wrth alw am hynny.