Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 12 Mehefin 2019.
Weinidog, fe addawodd y Torïaid ddarparu trydaneiddio i Abertawe, rhywbeth a fyddai'n sicr wedi gwella gwasanaethau ymhellach i'r gorllewin nag Abertawe. Nawr, gŵyr pawb ohonom eu bod wedi torri'r addewid hwnnw ac o'r herwydd, ni fydd gwasanaethau i'r gorllewin o Gaerdydd yn cael cymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer unrhyw waith seilwaith na moderneiddio. Nawr, mae hynny'n rhoi'r argraff ehangach nad yw unrhyw beth i'r gorllewin o Gaerdydd yn agored i fusnes chwaith ac nad oes diddordeb mewn buddsoddwyr gan Lywodraeth y DU. Pan etholir y Prif Weinidog newydd, pwy bynnag y bo, a wnewch chi ymrwymo felly i geisio'u cael i wneud tro pedol arall a chadw eu hymrwymiad mewn gwirionedd er mwyn inni allu gweld trydaneiddio i Abertawe, sydd wedyn yn gwella'r cysylltiadau â'r gorllewin, ond hefyd efallai y gallem ofyn iddynt sicrhau eu bod yn gwrando ar alwadau Llafur Cymru fod Cymru'n agored i fusnes i bob buddsoddwr?