Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:47, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Hoffwn groesawu cynnig Bethan Jenkins a dweud, ydy, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn fwrw ymlaen ag ef. Yn sicr, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod gan Aelodau ar draws y Siambr hon syniadau arloesol, egni a phenderfyniad i ddylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth er gwell. Felly, hoffwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwnnw. Ac fel y mae'r Aelod wedi nodi, hoffwn ddweud bod y sector digidol yn bwysicach na phob un o'r sectorau traddodiadol hynny; mae'n rhan annatod o'r holl sectorau traddodiadol roeddem yn rhoi blaenoriaeth iddynt nes inni ddatblygu'r cynllun gweithredu digidol, a chymerasom y sector digidol a'i wneud yn alluogwr allweddol sy'n croesi'r holl waith a wnawn ar gefnogi twf busnesau.