1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 12 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Bethan Sayed.
Diolch yn fawr iawn. O ystyried bod Cymru ar hyn o bryd yn wynebu cyfnod economaidd a allai fod yn gythryblus, fel y trafodasom ddoe ddiwethaf, gyda'r posibilrwydd y bydd Ford yn cau, credwn yn y fan hon y dylem wneud cymaint ag y gallwn i arallgyfeirio economi Cymru—er enghraifft, datblygu seilwaith er mwyn i ni fel gwlad allu cynnig y gallu i'n busnesau fanteisio ar farchnadoedd byd-eang sy'n dod i'r amlwg. A all y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i arallgyfeirio economi Cymru o dan ei arweinyddiaeth?
Gallaf, wrth gwrs. Mae hwn yn fater eithriadol o bwysig i'w ystyried wrth i ni nesáu at ddyddiad gadael yr UE. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ystyried a oes angen inni ddwysáu'r camau sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru, yn benodol mewn perthynas â datgarboneiddio a diogelu busnesau ar gyfer y dyfodol. Mewn sawl ffordd, mae gan Gymru economi amrywiol o gymharu â'r DU, lle mae gweithgynhyrchu ar lefel isel iawn yn wir a lle mae dibyniaeth fawr iawn ar y sector gwasanaethau, yn enwedig mewn rhai rhannau daearyddol o'r DU. O gofio'r buddsoddiad a wnaethom dros flynyddoedd lawer ers datganoli, mae'r economi mewn sefyllfa gref yn fy marn i.
Byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn tyfu cwmnïau bach a microfusnesau er mwyn inni annog twf cwmnïau canolig eu maint, a lle bynnag y bo'n bosibl, ein bod yn annog busnesau i groesawu technoleg fodern a ffyrdd modern o weithio. Ond cafodd ein gweithredoedd yn y cynllun gweithredu economaidd eu cynllunio'n benodol i ymdrin â heriau'r diwydiant awtomeiddio 4.0 a Brexit. Maent yno; rydym yn ymdrin â hwy. Rydym yn cyflawni'r camau hynny ac o'r herwydd, erbyn hyn mae gennym gyfradd ddiweithdra sydd ar lefel is nag erioed, neu o gwmpas hynny.
Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cydnabod y gwaith ar ddatgarboneiddio, ond roeddwn am ganolbwyntio ar faterion digidol, a chredaf efallai nad yw Cymru'n barod ar gyfer y chwyldro diwydiannol nesaf. Arweiniasom y chwyldro diwydiannol diwethaf, ond rydym yn dal i fod ar ei hôl hi yn hyn o beth. I roi enghraifft i chi, mae rhannau helaeth o'r gymdeithas sy'n ei chael hi'n anodd cael signal 3G hyd yn oed, heb sôn am signal mewn unrhyw siâp neu ffurf arall. Ac wrth gwrs, ceir llawer o ardaloedd gwledig, ond mae technoleg amaethyddol yn cael ei rhwystro'n llwyr yn sgil y ffaith nad oes ganddynt y signal sylfaenol hwnnw.
Felly, mae gennym lawer o'r seilwaith hwn yng Nghymru eisoes. Mae'r pecynnau buddsoddi'n bodoli drwy'r bargeinion dinesig, a chronfa ffeibr gwledig £200 miliwn Llywodraeth y DU. Felly, credwn y gall Trafnidiaeth Cymru, credwch neu beidio, fod yn gyfrwng i greu seilwaith technoleg ffeibr 5G a thechnoleg ofod sy'n rhyngwladol a chydgysylltiedig ar gyfer Cymru, ac y gallai cost seilwaith digidol cenedlaethol fod oddeutu £110 miliwn, gyda'r posibilrwydd y bydd hanner y cyllid hwn yn dod o dan gronfa ffeibr gwledig Llywodraeth y DU.
Felly, nid ymwneud yn unig â'r seilwaith digidol y mae hyn; mae'n ymwneud â lleoli Cymru ar flaen y gad mewn diwydiannau newydd. Felly, pa gamau rydych yn eu cymryd mewn perthynas â seilwaith digidol i hwyluso datblygiad diwydiannau newydd sydd ar hyn o bryd yn llusgo ar ei hôl hi a hynny'n unig am nad yw'r seilwaith hwnnw'n bodoli?
Pan oeddem yn datblygu'r cynllun gweithredu economaidd, edrychasom ar y ffordd orau o hybu arloesedd ledled Cymru er mwyn hybu cyfraddau cynhyrchiant. Ac mewn gwledydd o faint tebyg gydag economi debyg i Gymru, gwelsom mai tryledu arloesedd yn hytrach na datblygu arloesedd newydd sy'n mynd i alluogi economi i symud ymlaen. Felly, rydym wedi cynllunio'n benodol y galwadau i weithredu ar yr angen i fusnesau groesawu digideiddio. A thrwy brism y galwadau i weithredu y mae busnesau bellach yn hawlio cyllid. Yn ogystal â hyn wrth gwrs, mae yna ymdrech ddatblygu digidol sy'n cael ei harwain gan fy nirprwy, Lee Waters, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt gwerthfawr iawn am rôl bosibl Trafnidiaeth Cymru hefyd. Rydym eisoes wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ystyried sut y gall annog y farchnad, y sector preifat, i leoli pwyntiau gwefru trydan ledled Cymru, gan ddefnyddio ased cyhoeddus gorsafoedd rheilffordd. Ac rwy'n credu, wrth symud ymlaen, wrth i ni drosglwyddo mwy o swyddogaethau i Trafnidiaeth Cymru, y gallwn edrych arnynt yn gweithio mewn mannau mwy arloesol byth.
Er hynny, rwy'n meddwl y dylwn nodi hefyd, o ran seilwaith digidol a'r defnydd ohono, fod rhaglen ddigidol bwysig yn ymyrraeth flaenoriaethol i fargen twf gogledd Cymru—gwn fod yr Aelod wedi sôn am fargeinion twf a bargeinion dinesig fel cyfrwng at y diben hwn—a chredaf y dylid croesawu hynny.
Ie, diolch, ac rydym yn croesawu hynny. Rwy'n credu bod y camau nesaf yn mynd i fod yn hanfodol, ac nid oes amheuaeth am hynny. I ni yng Nghymru, a'i phartneriaid, credaf y gallwn ddarparu cyfleoedd sectoraidd mewn iechyd, cerbydau awtonomaidd, fel y crybwylloch chi, gyda cherbydau trydan, ond nid yn unig hynny ond hydrogen, fel y soniwyd ddoe, data mawr, deallusrwydd artiffisial, gweithgynhyrchu ac awyrofod. Rwy'n credu eu bod i gyd yn rhan o'r rheswm pam fod angen gwella'r tirlun digidol.
Yn ôl ymchwil Llywodraeth y DU, amcangyfrifir y bydd effaith 5G yn £198 biliwn y flwyddyn erbyn 2030, gydag effaith cynnyrch domestig gros 10 mlynedd o £173 biliwn rhwng 2020 a 2030. Felly, rhaid inni gael uchelgais i gymryd cyfran o hwnnw, ac awgrymwyd bod Cymru'n anelu at gyfran o 10 y cant o hyn, a fyddai'n golygu cynnydd o £17.3 biliwn yn y cynnyrch domestig gros rhwng 2020 a 2030. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo i weithio ar sail drawsbleidiol i gyfuno adnoddau er mwyn inni allu cyflwyno syniadau newydd ym mhob un o'r meysydd a grybwyllais yn gynharach yn fy nghwestiwn, fel y gallwn gyflawni'r amcanion hyn ar gyfer Cymru gyda'n gilydd? Oherwydd credaf mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn neidio ar y cyfle i ehangu cyfoeth ein gwlad gyda'r sgiliau sydd ganddynt, ond gan roi'r seilwaith yn ei le i ganiatáu iddynt wneud hynny.
Hoffwn groesawu cynnig Bethan Jenkins a dweud, ydy, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn fwrw ymlaen ag ef. Yn sicr, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn cydnabod bod gan Aelodau ar draws y Siambr hon syniadau arloesol, egni a phenderfyniad i ddylanwadu ar bolisi'r Llywodraeth er gwell. Felly, hoffwn fwrw ymlaen â'r cynnig hwnnw. Ac fel y mae'r Aelod wedi nodi, hoffwn ddweud bod y sector digidol yn bwysicach na phob un o'r sectorau traddodiadol hynny; mae'n rhan annatod o'r holl sectorau traddodiadol roeddem yn rhoi blaenoriaeth iddynt nes inni ddatblygu'r cynllun gweithredu digidol, a chymerasom y sector digidol a'i wneud yn alluogwr allweddol sy'n croesi'r holl waith a wnawn ar gefnogi twf busnesau.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn pa mor hyderus ydych chi y bydd y comisiwn newydd a sefydlwyd gennych i edrych ar ffordd liniaru'r M4 yn cwblhau ei waith mewn chwe mis yn unig, ar ôl gwario £140 miliwn ar y prosiect dros y chwe blynedd diwethaf wrth gwrs? O gofio bod yr ymchwiliad cyhoeddus eisoes wedi edrych ar 28 dewis gwahanol, beth sydd i'w ystyried o'r newydd a pha mor hyderus ydych chi na fydd argymhellion y comisiwn newydd hwn yn cael eu rhoi yn y bin gan y Prif Weinidog os nad yw'n cydymffurfio â'i farn?
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau? Mae gennyf bob ffydd yn y comisiwn sy'n edrych ar y pwnc pwysig hwn ac sy'n datblygu nid yn unig y cynigion a gyflwynir yn gyfuniad, yn becyn, o ymyriadau o bosibl, ond sydd hefyd yn edrych ar ddatblygiadau ac ymyriadau newydd posibl na chawsant eu hystyried yn ôl yn 2010 i 2014, pan ddaeth y llwybr du i'r amlwg fel yr opsiwn a ffafriwyd. Wrth gwrs, roedd mwy nag 20 o ddewisiadau amgen wedi'u hargymell i'r arolygydd cynllunio, ond yn ogystal â hynny, roedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried 200 neu fwy o atebion yn ôl yn 2010 i 2014. Rydym wrthi'n darparu briffiau technegol i gadeirydd y comisiwn. Rydym hefyd yn y broses o nodi a phenodi aelodau ychwanegol i'r comisiwn. Byddant yn cael cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i graffu ar yr holl fodelu traffig, yr holl ddata sy'n bodoli, ac mae gennyf ffydd y byddant yn adrodd yn ôl mewn chwe mis gydag argymhellion cryf y bydd y Llywodraeth hon yn gallu bwrw ymlaen â hwy.
Rwy'n cydnabod bod y ffigur sydd ynghlwm wrth gost ddatblygu'r llwybr du arfaethedig yn un sylweddol, ond mae oddeutu 6 y cant yn unig o holl gost amcangyfrifedig y prosiect, ac mae hynny, fel y dywedais yn y Siambr hon, yn cymharu'n ffafriol iawn â phrosiectau eraill. Nid oes ond angen ichi edrych ar gostau datblygu prosiectau fel HS2 i ddeall na allwch gyflawni prosiect seilwaith mawr yn y byd gorllewinol heb wynebu costau datblygu sylweddol.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Mewn sawl ffordd, mae'n dangos faint o amser ac adnoddau y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi i edrych ar lwybrau amgen eisoes, sef sail fy nghwestiwn mewn gwirionedd.
I droi at yr ymchwiliad cyhoeddus ei hun, yn amlwg, mae'r Aelodau a minnau wedi cael amser i ystyried adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus. Yn ei ddatganiad, dywedodd y Prif Weinidog na fyddai wedi bwrw ymlaen â chynigion y Llywodraeth ei hun, hyd yn oed pe bai'n teimlo eu bod yn fforddiadwy, ar sail yr effaith ar yr amgylchedd. Felly, os caf edrych ar hynny am eiliad: dywedai tystiolaeth Llywodraeth Cymru ei hun, a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac a gefnogwyd gan fargyfreithwyr Llywodraeth Cymru, y byddai'r cynllun yn garbon niwtral dros amser ac yn gydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Cytunai'r arolygydd â'ch barn chi fel Llywodraeth Cymru a dywedodd fod y farn honno'n gadarn a chytunai hefyd y gellid ystyried bod y mesurau lliniaru helaeth arfaethedig ar gyfer yr effaith ar wastadeddau Gwent, a ddatblygwyd ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru, yn rhoi camau rhesymol ar waith i gydymffurfio â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Nawr, y pwynt yr hoffwn ei wneud yma, Weinidog, yw os ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn anghytuno â'ch cynigion eich hun erbyn hyn, a ydych yn credu bod y ddeddfwriaeth a geir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn ddigonol? A sut y mae'r penderfyniad hwn yn bwrw amheuaeth ar gynlluniau trafnidiaeth eraill yng Nghymru, megis cynllun coridor Glannau Dyfrdwy ac ardaloedd eraill lle mae angen llawer o welliant wrth gwrs, ar hyd yr A40, yr A55 a'r A470? A yw'r penderfyniad hwn gan y Prif Weinidog yn arwydd o newid sylfaenol i bolisi trafnidiaeth Llywodraeth Cymru ar sail amgylcheddol?
Nac ydy. Pwysleisiodd y Prif Weinidog yn glir iawn fod y prosiect hwn yn gwbl unigryw o ran ei faint ac o ran ei effaith ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac felly, roedd yn rhaid ei ystyried ar ei ben ei hun. Roedd y Prif Weinidog yn glir iawn hefyd pan ddywedodd ei fod yn anghytuno â'r arolygydd o ran lle dylid gosod y bar ar ganlyniadau amgylcheddol seilwaith, ac mae'n credu o ran mesurau lliniaru na ellir lliniaru effeithiau colli SODDGA, er enghraifft, a cheisio datblygu amgylchedd tebyg mewn man arall wedyn, a bod gwahaniaeth mawr rhwng lliniaru a digolledu. Wrth gwrs, ers i ni gyflwyno achos a oedd yn un cymhellol iawn yn fy marn i, cafwyd datganiad o argyfwng hinsawdd, gwell dealltwriaeth o'r angen inni weithredu yn awr, fod angen inni fod yn fwy ymatebol a chyfrifol ac felly mae'r bar wedi'i godi. Er nad wyf yn credu bod angen diwygio'r ddeddfwriaeth y cyfeiriodd yr Aelod ati, rwy'n credu bod hyn yn golygu bod angen i'r Llywodraeth ystyried yn ofalus iawn sut y dylem symud ymlaen, nid yn unig ar y seilwaith trafnidiaeth ond yr holl seilwaith—seilwaith cymdeithasol, er enghraifft, ysbytai, ysgolion—i sicrhau nad yw datblygu adeiladau, ffyrdd a systemau rheilffyrdd yn cael effaith andwyol ar yr amgylchedd, os oes unrhyw fodd o osgoi hynny.
Credaf fod yr Aelod yn gywir i nodi nifer o gynlluniau y byddai llawer yn ofni y cânt eu colli os gwelir bod hyn yn gosod cynsail. Nid yw hynny'n wir. Bydd y rhaglenni hynny i gyd yn mynd rhagddynt. Yn wir, rydym yn bwrw ymlaen ag ymgynghoriadau ar welliannau i'r A483 y mis hwn, bydd gwaith ar goridor sir y Fflint, yr A494/A55, yn parhau yr haf hwn gyda gwaith modelu pellach a gwaith ar yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru ac ymgynghoriadau a chyfarfodydd pellach gyda rhanddeiliaid lleol. Mae prosiectau ffyrdd eraill ar hyd a lled Cymru yn dal ar y gweill i gael eu cyflawni. Nid yw hyn yn newid ein safbwynt ar y rheini.
Wel, fe sonioch chi fod y bar wedi'i godi ac fe sonioch chi am yr argyfwng hinsawdd a ddatganwyd gan Lywodraeth Cymru yn y cyfamser. Daw hynny â mi yn ôl at fy nghwestiwn eto wrth gwrs ynglŷn â'r angen am newidiadau i'r ddeddfwriaeth. Rwy'n derbyn yr ateb a roesoch, ond mae'n anodd deall sut na all newid yn yr amgylchiadau hynny effeithio ar gynlluniau yn y dyfodol, ac rwy'n gwerthfawrogi'r atebion a roesoch.
Nawr, mae adran 6 o adroddiad yr ymchwiliad cyhoeddus yn nodi mai'r M4 yw'r ffordd fwyaf strategol bwysig yng Nghymru a'r prif lwybr i mewn ac allan o'r wlad ar gyfer symud nwyddau, a bod cyfyngiadau ar gapasiti ar hyn o bryd yn creu costau i weithgarwch economaidd. Nawr, cytunai'r arolygydd hefyd â gwerthusiad economaidd Llywodraeth Cymru ei hun o'r cynllun, gan ddangos y byddai'n darparu gwerth da am arian, sy'n dangos cymhareb cost a budd o 2:1. Nawr, amcangyfrifwyd bod yr effaith ar yr economi o beidio â bwrw ymlaen yn £134 miliwn y flwyddyn i Gaerdydd a £44 miliwn y flwyddyn i Gasnewydd. Yr un gost â'r ymchwiliad cyhoeddus fel mae'n digwydd. Nawr, o gofio'r ansicrwydd wrth gwrs yn sgil cyhoeddiadau diweddar Tata Steel a Ford ymysg eraill, onid ydych yn cytuno â'r arolygydd y bydd effaith economaidd oedi pellach cyn cael ffordd liniaru yn llesteirio economi Cymru? Ac yn olaf, os mai'r Prif Weinidog oedd yn penderfynu, fel y mae'n dweud, yn hytrach na chi na'r Cynulliad hwn, pa fewnbwn a oedd gennych yn y penderfyniad terfynol hwnnw?
Penderfyniad i'r Prif Weinidog yn unig oedd hwn, ac fel hyrwyddwr y cynllun ni allwn gymryd unrhyw ran yn hynny. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, trafodwyd fforddiadwyedd prosiectau seilwaith mawr yn y Cabinet, ac roedd hynny'n cynorthwyo i lywio penderfyniad y Prif Weinidog, ond o ran gwneud y penderfyniad, y Prif Weinidog yn unig ac yn benodol oedd yn gyfrifol am ei wneud.
Credaf fod Russell George yn gwneud pwynt gwerthfawr iawn y byddai gwneud dim yn cael effaith fawr—effaith go ddinistriol ar economi de Cymru, a dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod yr argymhellion y bydd y comisiwn yn eu cyflwyno yn cael eu gweithredu'n gyflym a chyda digon o adnoddau, ac yn ei dro, dyna pam y dywedasom y byddwn yn defnyddio rhan o'r arian a fyddai wedi'i neilltuo ar gyfer ffordd liniaru M4, yr amlen wreiddiol honno, ar gyfer ymyriadau yng Nghasnewydd a'r cyffiniau yn gyntaf oll, er mwyn lleihau tagfeydd i lefel dderbyniol.
Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddychwelyd at thema trafnidiaeth rheilffyrdd, Weinidog? Ers cyhoeddi'r fasnachfraint reilffyrdd newydd, mae llawer o drafod wedi bod ar y cyhoeddiadau i amserlenni a stoc rheilffyrdd craidd y Cymoedd, ac yn wir, rydych newydd roi newyddion da iawn inni am y cyhoeddiadau arfaethedig i reilffordd Glynebwy. Ond a allai'r Gweinidog roi rhyw syniad inni am unrhyw gyhoeddiadau o'r fath i'r gwasanaethau rheilffordd sy'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a Chwmbrân?
Credaf y byddai'n fuddiol pe bawn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r holl Aelodau am bob gwasanaeth ledled Cymru ac am gaffael cerbydau ychwanegol i ddarparu cerbydau newydd, yn hytrach na nodi rhai gwasanaethau a rhai rheilffyrdd, ond buaswn yn falch iawn o wneud hynny.
Diolch ichi, Weinidog, ond yn amlwg, mae'n peri pryder inni yn ne-ddwyrain Cymru. Dyma brif reilffordd sy'n arwain i mewn i Gaerdydd, fel y gwyddoch, ac i mewn i Gasnewydd. Felly, a allwch roi rhyw syniad inni ynglŷn â'r cyhoeddiadau arfaethedig i'r cerbydau ar y rheilffordd honno? Wedi'r cyfan, nid yw'r metro'n rhoi llawer iawn o ymrwymiad strwythurol i Ddwyrain De Cymru. Felly, gadewch inni gynnwys hynny hefyd yn yr ymrwymiad strwythurol ar gyfer Dwyrain De Cymru. A allech roi—?
Wel, gallaf sicrhau'r Aelod y bydd yr holl drenau ar y rhwydwaith, gan gynnwys y rhai yn ardal y metro, yn cael eu newid, a bod yna drenau newydd, gyda llawer ohonynt yn cael eu hadeiladu yng Nghymru, a fydd yn cyrraedd safonau modern heddiw o ran mynediad ar gyfer pobl anabl. Rydym hefyd yn benderfynol, lle bo modd, o gynyddu capasiti ar reilffyrdd ar hyn o bryd, a dyna pam ein bod wedi gallu cyflwyno rhagor o gerbydau ar reilffyrdd craidd y Cymoedd dros y misoedd diwethaf. Rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn wella capasiti mewn mannau eraill ledled Cymru. Felly, gallaf sicrhau'r Aelod ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i nodi lle gellir cyflwyno cerbydau, er mai ar sail dros dro y gwnawn hynny, er mwyn lliniaru tagfeydd tra bydd y trenau newydd sbon hynny'n cael eu hadeiladu.