Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 1:41, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. O ystyried bod Cymru ar hyn o bryd yn wynebu cyfnod economaidd a allai fod yn gythryblus, fel y trafodasom ddoe ddiwethaf, gyda'r posibilrwydd y bydd Ford yn cau, credwn yn y fan hon y dylem wneud cymaint ag y gallwn i arallgyfeirio economi Cymru—er enghraifft, datblygu seilwaith er mwyn i ni fel gwlad allu cynnig y gallu i'n busnesau fanteisio ar farchnadoedd byd-eang sy'n dod i'r amlwg. A all y Gweinidog amlinellu'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i arallgyfeirio economi Cymru o dan ei arweinyddiaeth?