Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 12 Mehefin 2019.
Penderfyniad i'r Prif Weinidog yn unig oedd hwn, ac fel hyrwyddwr y cynllun ni allwn gymryd unrhyw ran yn hynny. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, trafodwyd fforddiadwyedd prosiectau seilwaith mawr yn y Cabinet, ac roedd hynny'n cynorthwyo i lywio penderfyniad y Prif Weinidog, ond o ran gwneud y penderfyniad, y Prif Weinidog yn unig ac yn benodol oedd yn gyfrifol am ei wneud.
Credaf fod Russell George yn gwneud pwynt gwerthfawr iawn y byddai gwneud dim yn cael effaith fawr—effaith go ddinistriol ar economi de Cymru, a dyna pam y mae'n rhaid inni sicrhau bod yr argymhellion y bydd y comisiwn yn eu cyflwyno yn cael eu gweithredu'n gyflym a chyda digon o adnoddau, ac yn ei dro, dyna pam y dywedasom y byddwn yn defnyddio rhan o'r arian a fyddai wedi'i neilltuo ar gyfer ffordd liniaru M4, yr amlen wreiddiol honno, ar gyfer ymyriadau yng Nghasnewydd a'r cyffiniau yn gyntaf oll, er mwyn lleihau tagfeydd i lefel dderbyniol.