Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 1:48, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn pa mor hyderus ydych chi y bydd y comisiwn newydd a sefydlwyd gennych i edrych ar ffordd liniaru'r M4 yn cwblhau ei waith mewn chwe mis yn unig, ar ôl gwario £140 miliwn ar y prosiect dros y chwe blynedd diwethaf wrth gwrs? O gofio bod yr ymchwiliad cyhoeddus eisoes wedi edrych ar 28 dewis gwahanol, beth sydd i'w ystyried o'r newydd a pha mor hyderus ydych chi na fydd argymhellion y comisiwn newydd hwn yn cael eu rhoi yn y bin gan y Prif Weinidog os nad yw'n cydymffurfio â'i farn?