Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 12 Mehefin 2019.
Diolch ichi, Weinidog, ond yn amlwg, mae'n peri pryder inni yn ne-ddwyrain Cymru. Dyma brif reilffordd sy'n arwain i mewn i Gaerdydd, fel y gwyddoch, ac i mewn i Gasnewydd. Felly, a allwch roi rhyw syniad inni ynglŷn â'r cyhoeddiadau arfaethedig i'r cerbydau ar y rheilffordd honno? Wedi'r cyfan, nid yw'r metro'n rhoi llawer iawn o ymrwymiad strwythurol i Ddwyrain De Cymru. Felly, gadewch inni gynnwys hynny hefyd yn yr ymrwymiad strwythurol ar gyfer Dwyrain De Cymru. A allech roi—?