Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 12 Mehefin 2019.
Gwnaf. Y mis diwethaf, cyhoeddais ein cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol wedi'i ddiweddaru, ac mae hwnnw'n nodi ein blaenoriaethau dros y ddwy flynedd nesaf. Gan fod y prosiectau hyn yn ddibynnol ar fod cyllid ar gael a lle bo angen, ar gael caniatadau statudol, bydd y rhaglen arfaethedig o welliannau'n cael ei hadolygu'n gyson.