Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 12 Mehefin 2019.
Mae'n anffodus fod yr ymrwymiad yn y maniffesto wedi'i dorri, ond yr hyn a wnaethoch, Weinidog, yw ymrwymo y bydd gwelliannau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau rhai manteision tymor byr. Mae llawer o bobl wedi bod yn bryderus pam na chafodd y manteision tymor byr hyn eu cyflawni yn y cyfnod byrrach o amser pan oedd yr ymchwiliad yn cyfarfod, er enghraifft, neu pan oedd y Llywodraeth yn ystyried y mater hwn, pan gollwyd cryn dipyn o amser, buaswn yn awgrymu.
Pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl sy'n siomedig nad yw'r penderfyniad hwn wedi cael ei wneud mewn ffordd gadarnhaol y bydd y manteision tymor byr hyn yn lliniaru'r tagfeydd o amgylch Casnewydd, sef y man cyrraedd a gadael ar gyfer dwy ran o dair o'r nwyddau i mewn ac allan o Gymru sydd mor bwysig i'n heconomi fel y gwyddom?