Ffatri Rehau yn Amlwch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:12, 12 Mehefin 2019

Diolch yn fawr iawn. Gaf i ddiolch am y llythyr gan y Gweinidog ar 5 Mehefin yn ateb e-bost gen i o 9 Mai ynglŷn â chefnogaeth i economi gogledd Môn? Mae yna gyfeiriad yn hwnnw at y tasglu sydd wedi cael ei sefydlu yn dilyn cyhoeddiad Rehau. Ddoe, yng nghyd-destun y cyhoeddiad am ffatri Ford, mi glywsom ni'r Gweinidog yn dweud y byddai fo am fynd ymhellach na'r model tasglu arferol oherwydd maint y bygythiad yna ym Mhen-y-bont, a dwi'n cytuno â hynny yn sicr. Mi fyddwn i'n dadlau bod cyhoeddiad Rehau ar ben y cyhoeddiadau negyddol diweddar ynglŷn ag economi gogledd Ynys Môn hefyd yn arbennig o ddifrifol, yn enwedig o ystyried maint y boblogaeth, yr elfen wledig ac yn y blaen. Felly, mi fyddwn i'n croesawu addewid i edrych ar fynd ymhell tu hwnt i'r model tasglu yn achos gogledd Ynys Môn hefyd ac i chwilio i wneud buddsoddiadau arbennig mewn datblygu'r economi yno.

Mi hoffwn i ymateb a sylw ar hynny gan y Gweinidog, ond hefyd ar y cwestiwn penodol o beth fydd yn digwydd i safle Rehau, mi hoffwn i glywed gair o gefnogaeth i'r syniad y byddai'r safle yn sicr yn cael ei adael fel gwaddol i'r economi leol er mwyn sicrhau bod beth fu yn hyb economaidd pwysig yn gallu parhau felly yn y dyfodol.