Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 12 Mehefin 2019.
Gallaf. Soniais yn gynharach, wrth ymateb i gwestiynau Bethan, fod gan fargen twf gogledd Cymru brosiect digidol sy'n ganolog i'r weledigaeth ar gyfer datblygu economi gryfach a chadarnach yn y gogledd. Drwy gydol y sesiynau her sydd i ddod, rwy'n hyderus y gallwn sicrhau bod y rhaglen benodol honno'n cyrraedd pob busnes ledled Cymru ac yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r Aelod newydd eu nodi.