Busnesau Bach

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 2:20, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, mae busnesau bach mewn cymunedau gwledig yng ngogledd Cymru'n chwarae rhan bwysig yn natblygiad economaidd y rhanbarth. Un mater sy'n cael ei ddwyn i fy sylw yn rheolaidd gan fusnesau bach a chanolig yw symud taliadau a thrafodion ar-lein—nad yw'r cysylltiad â'r rhyngrwyd yn ddigonol. A allwch sicrhau fy etholwyr y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth i'r rhyngrwyd a band eang mewn unrhyw gynlluniau datblygu economaidd ar gyfer gogledd Cymru?