Busnesau Bach

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:19, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i David Melding am ei gwestiwn. Byddaf yn sicrhau ein bod yn anfon swyddogion o'r uned ranbarthol at y busnes i helpu mewn unrhyw ffordd y gallwn. Yn gyntaf, rwy'n credu bod angen inni ddeall a ellir priodoli haneru nifer yr ymwelwyr i un ffactor yn unig ac os felly, er y gallai fod yn hwyr yn y broses, sut y gallwn liniaru'r effeithiau y mae'r gwaith ar y ffordd yn eu cael. Wrth gwrs, rydym yn cyhoeddi hysbysiadau. Rydym yn ymgysylltu'n uniongyrchol â busnesau drwy ein hadran drafnidiaeth ble bynnag a phryd bynnag y bo'n bosibl. Credaf fod yr enghraifft benodol hon yn gymharol unigryw o ran haneru nifer yr ymwelwyr, neu gwsmeriaid os hoffech. Felly, rwy'n credu y bydd yn hanfodol fod fy swyddogion yn gweithio'n gyflym gyda'r cwmni i oresgyn yr her sy'n eu hwynebu.