Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 12 Mehefin 2019.
Gwnaf, wrth gwrs. Mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol am ariannu'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, fel y gŵyr pawb ohonom, ac mae'n ffaith anffodus fod yn rhaid inni ddibynnu arni i ddarparu rhaglen fuddsoddi deg. Rydym yn dal i ddadlau'r achos dros ddatganoli fel y gallwn ddatblygu rhwydwaith i Gymru, sy'n darparu ar gyfer y teithiau y mae pobl angen eu gwneud.