Strwythur Cydbwyllgor y Gweinidogion

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:30, 12 Mehefin 2019

Mae yn hynod o bwysig, dwi'n credu, bod strwythur Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn cael ei gryfhau yn y dyfodol, a dwi hefyd yn credu y dylem ni ddiwygio'r pwyllgor, a gosod y pwyllgor ar lefel statudol, i sicrhau bod llais Cymru yn glir mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol. Dwi'n credu, mewn ateb i'r Aelod dros Aberafan, eich bod chi wedi dweud dŷch chi ddim yn ffafrio rhoi'r pwyllgor ar lefel statudol. Allwch chi esbonio i ni pam dŷch chi ddim yn ffafrio hynny? Oherwydd dyna'r ffordd ymlaen, yn fy marn i.