Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:40, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Onid y gwir amdani, Weinidog, yw eich bod yn dal i chwarae gwleidyddiaeth â Brexit? Cafwyd ymrwymiad maniffesto clir gan y Blaid Lafur yn 2017 i gyflawni Brexit ac mae'n eithaf clir yn awr i bobl Cymru na ellir ymddiried yn y Blaid Lafur i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto penodol hwnnw. Nawr, rydych eisoes wedi gwneud tro pedol o ran eich safbwynt ar ail refferendwm, ac rydych wedi dweud bod angen opsiwn i aros ar bapur pleidleisio mewn refferendwm yn y dyfodol. Ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw mai'r un peth na phleidleisiodd pobl Cymru drosto yw unrhyw fath neu fersiwn o 'aros'. Rydych yn dal i siarad am fathau neu fersiynau o 'adael', ond yr un peth nad oedd pobl Cymru'n ei gymeradwyo—ac nid oeddem yn ei gymeradwyo o gwbl—oedd unrhyw fath o aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Sut y gallwch gyfiawnhau anwybyddu canlyniad refferendwm 2016, a wrthododd 'aros' ar y papur pleidleisio, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i bobl Cymru, os bydd ail refferendwm—ac rwy'n mawr obeithio na fydd—na fyddwch yn anwybyddu hwnnw chwaith?