2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 12 Mehefin 2019.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Lywydd. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ei thrafodaethau â'r Comisiwn Ewropeaidd heddiw?
Ar hyn o bryd, rydym yn rhagweld newid personél y Comisiwn yn y dyfodol. Mae'r Prif Weinidog ym Mrwsel heddiw gyda'r bwriad o gyfarfod â nifer o'n partneriaid yno, gan gynnwys Michel Barnier.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhyfeddu ei bod yn ymddangos bod gan Weinidogion Llafur Cymru fwy o ddiddordeb mewn ceir sy'n cael eu gyrru gan chaffeurs nag sydd ganddynt mewn materion go iawn. Rwy'n siŵr na fyddai Llywodraeth Cymru am ganiatáu i'w hadnoddau gael eu defnyddio i gefnogi gweithgareddau sy'n tanseilio ei hamcanion polisi hithau chwaith, ac a dweud y gwir rwy'n credu y dylai Gweinidogion dyfu fyny a gwrando ar bobl Cymru a bleidleisiodd dros adael yr UE yn 2016. Ni chyfeirioch chi yn eich ateb yn awr at y strategaeth negodi y gallai'r Prif Weinidog fod yn ei defnyddio, neu beidio, ym Mrwsel heddiw. Ond a wnewch chi ddweud wrthym a fydd yn ailadrodd ewyllys pobl Cymru a bleidleisiodd dros adael yr UE yn 2016, ac os na fydd, pam ddim?
Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn rhyfedd gan yr Aelod. Gorffennais fy ateb i'r cwestiwn blaenorol drwy ddweud bod y Prif Weinidog yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ym Mrwsel heddiw, sydd i'w weld i mi yn dynodi diffyg diddordeb llwyr yn y defnydd o geir y Llywodraeth. Felly, credaf y dylai ystyried y ffaith bod y Prif Weinidog ym Mrwsel yn ymdrin â materion o sylwedd yn hytrach na materion yn ymwneud â chyflwyniad a phenawdau fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu. Bydd y Prif Weinidog yn disgrifio beth sydd er lles gorau Cymru a safbwynt Llywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru yn ei drafodaethau yn Ewrop, fel y mae'n gwneud ar bob cyfle arall.
Onid y gwir amdani, Weinidog, yw eich bod yn dal i chwarae gwleidyddiaeth â Brexit? Cafwyd ymrwymiad maniffesto clir gan y Blaid Lafur yn 2017 i gyflawni Brexit ac mae'n eithaf clir yn awr i bobl Cymru na ellir ymddiried yn y Blaid Lafur i gyflawni'r ymrwymiad maniffesto penodol hwnnw. Nawr, rydych eisoes wedi gwneud tro pedol o ran eich safbwynt ar ail refferendwm, ac rydych wedi dweud bod angen opsiwn i aros ar bapur pleidleisio mewn refferendwm yn y dyfodol. Ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw mai'r un peth na phleidleisiodd pobl Cymru drosto yw unrhyw fath neu fersiwn o 'aros'. Rydych yn dal i siarad am fathau neu fersiynau o 'adael', ond yr un peth nad oedd pobl Cymru'n ei gymeradwyo—ac nid oeddem yn ei gymeradwyo o gwbl—oedd unrhyw fath o aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Sut y gallwch gyfiawnhau anwybyddu canlyniad refferendwm 2016, a wrthododd 'aros' ar y papur pleidleisio, a pha sicrwydd y gallwch ei roi i bobl Cymru, os bydd ail refferendwm—ac rwy'n mawr obeithio na fydd—na fyddwch yn anwybyddu hwnnw chwaith?
Os caf ddweud, prin iawn yw'r pethau rwy'n eu hedmygu am y Blaid Geidwadol, ond mae ei gallu i fy ngheryddu am chwarae gwleidyddiaeth gydag wyneb syth, ar ôl gofyn y ddau gwestiwn y mae newydd eu gofyn, yn eithaf clodwiw yn ei ffordd ei hun.
Ar gwestiwn refferendwm, nid wyf yn cofio clywed neb ar unrhyw adeg yn dadlau dros Brexit 'dim bargen' yn 2016. I'r gwrthwyneb yn llwyr—roedd pawb yn dweud wrthym pa mor syml y byddai, sut y byddai pobl yn baglu dros ei gilydd i drafod telerau gyda ni. Mae'r Prif Weinidog, Theresa May, wedi methu'n llwyr â chyflawni'r addewidion a wnaethpwyd.
Rydym bellach yn wynebu sefyllfa lle nad oes mandad o gwbl ar gyfer Brexit 'dim bargen', sef yr hyn yr ymddengys y mae'r Blaid Geidwadol yn carlamu tuag ato yn debyg i ruthr o gefnogaeth fel bustych ofnus oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr yn y Senedd i Boris Johnson, a allai ein hebrwng yn llawen tuag at Brexit 'dim bargen'. Yn y sefyllfa honno, nid oes ond un ffordd y gallwn atal y niwed y byddai hynny'n ei achosi i Gymru, sef drwy roi'r cwestiwn yn ôl i'r bobl, sy'n egwyddor ddemocrataidd sylfaenol.
Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae Donald Trump wedi dweud y byddai am i'r GIG fod ar y bwrdd mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol ynglŷn â chytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA. Yn ddiweddarach, fe dynnodd yn ôl ar hyn, ond mae'r ffaith bod ei lysgennad i'r DU, Woody Johnson, hefyd wedi dweud yr un peth yn dangos yn glir beth fydd blaenoriaethau'r UDA os a phan fydd trafodaethau masnach yn dechrau.
Mae Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes perygl o gwbl y caiff y GIG yng Nghymru ei werthu yn y ffordd hon a dywedodd y Gweinidog iechyd na fyddai GIG Cymru ar werth. Ac rydych chi wedi siarad heddiw eisoes yn eich ateb i Mick Antoniw am gynllunio'r gweithlu a'r angen i weithio gyda'r GIG.
Er fy mod yn cymeradwyo eich angerdd o blaid cadw gwasanaethau'r GIG yn gyhoeddus ac yn rhad ac am ddim lle mae eu hangen, a allwch egluro wrthyf—ac rwy'n pwyso arnoch i wneud hyn—pa gamau'n hollol y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i atal GIG Cymru rhag cael ei werthu pe bai Llywodraeth San Steffan yn ei fasnachu'n rhan o negodiadau gyda'r UDA?
Mae gennym fecanweithiau ar waith i sicrhau bod penderfyniadau ar feysydd datganoledig yn parhau'n gyfrifoldeb i ni drwy'r cytundeb rhynglywodraethol. O ran trafodaethau'n ymwneud â'r negodiadau masnach, mae trafodaethau ar lefel swyddogol yn mynd rhagddynt er mwyn sicrhau lefel o warchodaeth i Gymru cyn y trafodaethau hynny.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Rydych yn sôn am fecanweithiau a thrafodaethau heb lawer o fanylion yn y fan honno, ond rwy'n credu efallai mai'r rheswm am hynny yw mai ychydig iawn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i amddiffyn y GIG pe bai Llywodraeth San Steffan yn penderfynu ei werthu.
Mae'n amlwg y byddai Plaid Cymru yn eich cefnogi pe baech chi, fel y dywedodd y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ddydd Llun, yn dymuno mynd â Llywodraeth San Steffan i'r llys ar hyn. Ond y gwir amdani yw bod masnach ryngwladol yn fater a gadwyd yn ôl a bod pwerau dros gaffael cyhoeddus y gellid bod wedi'u defnyddio i ddiogelu rhai agweddau ar ein gwasanaethau iechyd wedi cael eu hildio fel rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol y cyfeirioch chi ato.
Rwy'n siŵr eich bod wedi bod yn dilyn y ras am arweinyddiaeth y Ceidwadwyr gyda'r un gymysgedd o arswyd ac anghrediniaeth â mi. Cawsom ymgeiswyr yn cyfaddef i droseddau sydd fel arfer yn arwain at ddedfryd o garchar, ymgeiswyr sydd eisiau cyfyngu ar hawliau dynol, ac yn fwyaf brawychus, yr ymgeisydd yr ystyrir ei fod yn ffefryn yn y ras, Boris Johnson, yn nodi'n glir ei fwriad i fwrw ymlaen ar lwybr trychinebus tuag at Brexit 'dim bargen'.
Weinidog, pe bai Prif Weinidog nesaf y DU yn penderfynu gadael yr UE heb fargen ac yn gallu dod o hyd i ffordd o osgoi'r Senedd, drwy ei rhagderfynu efallai, pa gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru'n llawn y canlyniadau trychinebus i Gymru? Efallai fod y rhain yn ddamcaniaethol, ond maent yn boenus o bosibl.
Mae'r Aelod yn parhau i gredu bod pwerau wedi cael eu rhoi'n ôl yn y cytundeb rhynglywodraethol. Fe'i gwahoddaf, pan fydd yn gofyn ei chwestiwn nesaf imi, i bennu un o'r pwerau hynny, oherwydd nid wyf wedi clywed yr un yn cael ei nodi yn y Siambr hon, er gwaethaf y dyfalbarhad â'r ddadl honno. Yn wir, mae pob adroddiad olynol a ddaw allan o Lywodraeth y DU yn dangos nad yw'n bwriadu defnyddio'r pwerau adran 12, a fyddai'n rhewi cymhwysedd y Cynulliad hwn. Hoffwn ei gwahodd efallai i nodi unrhyw rai o'r pwerau y mae'n credu eu bod wedi'u hildio o ganlyniad i'r cytundeb rhynglywodraethol hwnnw.
Mae'n iawn, wrth gwrs, fod cysylltiadau rhyngwladol yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl i Senedd y DU, ond fe fydd hefyd yn gwybod bod y Goruchaf Lys, yn yr achos yn ymwneud â Bil parhad yr Alban, yn gwbl glir fod gweithredu'r cytundebau hynny yn y wlad hon yn fater sydd wedi'i ddatganoli ac mae wedi'i ddatganoli i'r lle hwn. Rwy'n rhoi sicrwydd na fyddwn yn gweithredu mecanwaith sy'n galluogi'r GIG i gael ei werthu. Ond mae hi'n iawn i ddweud bod hynny'n arwydd o gyflwr meddwl a bwriadau Arlywydd America yn sicr. Roeddwn yn credu bod methiant Theresa May fel Prif Weinidog i herio hynny yn rhyfeddol, yn y gynhadledd i'r wasg y cyfeiriodd David Rees ati'n gynharach.
Mae'n fy ngwahodd i ddweud wrthi fy mod yn teimlo ei bod hi'n bosibl lliniaru canlyniadau Brexit 'dim bargen' i Gymru yn llawn. Fe fyddaf yn hollol glir gyda hi—nid wyf yn credu ei bod hi'n bosibl lliniaru'n llawn, gydag unrhyw lefel o baratoi, naill ai yn y tymor byr neu'n hirdymor, y canlyniadau trychinebus i Gymru a fyddai'n deillio o Brexit 'dim bargen'.
Diolch, Weinidog, a diolch i chi am droi'r craffu arnaf yn ôl arnaf fi yn y fan honno, ond fel yr eglurasom mewn dadleuon yn y gorffennol yn y Siambr hon, cafodd pwerau caffael cyhoeddus eu hildio yn rhan o'r cytundeb rhynglywodraethol, a buaswn yn croesawu trafodaeth bellach gyda chi ar hynny.
Ond i ddod yn ôl at y cwestiwn, ac fel rydych newydd gydnabod, gwyddom bellach nad oes fawr ddim y gallem ei wneud i liniaru effaith drychinebus Brexit 'dim bargen', lliniaru effaith hynny ar Gymru, a byddem yn ddi-rym yn y bôn i amddiffyn ein hunain. Mae'r diffyg parch a ddangoswyd gan San Steffan at Gymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yn anghredadwy. Maent wedi cipio pwerau oddi wrthym, maent wedi gwrthod gadael i Weinidogion Cymru weld drafftiau cynlluniau newydd yn lle arian Ewropeaidd. Fe ddywedoch chi wrthym ddoe, Weinidog, eu bod wedi gwrthod gwrando ar eich pryderon ynghylch cynlluniau ar gyfer mewnfudo, a hefyd nad ydym wedi cael fawr ddim mewnbwn—wel, dim mewnbwn o gwbl—i gynlluniau ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin.
Mae'r darpar Brif Weinidog tebygol yn bwriadu sychu dros £400 miliwn oddi ar gyllideb Cymru drwy roi toriad yn y dreth i'r bobl gyfoethocaf mewn cymdeithas. A heddiw, fel y clywsom eisoes, maent wedi gwrthod caniatáu i Brif Weinidog Cymru gael defnydd o gar gweinidogol ar gyfer ei ymweliad â Brwsel am ei fod wedi gwrthod cytuno i droi cefn ar fuddiannau Cymru—toriad protocol cwbl warthus na welwyd ei debyg o'r blaen, fel y dywedoch, a gweithred warthus o amarch tuag at ein gwlad.
Weinidog, ni all hyn barhau. Mae'n rhaid i ni sefyll drosom ein hunain a buddiannau'r bobl y mae gennym ddyletswydd i'w cynrychioli. A wnewch chi gytuno felly i ystyried sefydlu confensiwn cyfansoddiadol i Gymru i ystyried yn ofalus yr opsiynau cyfansoddiadol sydd ar gael i Gymru, gan gynnwys annibyniaeth? Mae confensiwn cyfansoddiadol yn rhywbeth y galwodd y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, amdano ar lefel y DU, ond ni ddigwyddodd hynny, er gwaethaf ymdrechion diflino dros flynyddoedd lawer ar ei ran. Felly, rhaid inni ei wneud drosom ein hunain yn awr.
Mae angen inni wybod pa ddewisiadau sydd ar gael inni yng Nghymru wrth i argyfwng cyfansoddiadol y DU ddyfnhau ac rydym angen dull o amddiffyn ein hunain rhag Llywodraeth elyniaethus yn San Steffan. Mae ein GIG mewn perygl, mae ein heconomi ar drothwy trychineb 'dim bargen'. Rhaid inni amddiffyn ein dinasyddion. A wnewch chi ystyried mabwysiadu'r llwybr hwn felly?
Rydym yn manteisio ar bob cyfle i sefyll dros fuddiannau'r Cymry mewn unrhyw ymgysylltiad rhyngom ag unrhyw ran o'r DU, gan gynnwys Llywodraeth y DU yn fwyaf uniongyrchol. Fel Gweinidogion, bydd pawb ohonom yn parhau i wneud hynny. Manteisiwn ar bob cyfle posibl i ddisgrifio ac i frwydro dros fuddiannau'r Cymry. Ar y cwestiwn atodol olaf, mewn perthynas â pharatoadau, dylwn ddweud nad yw'r ffaith nad wyf yn credu ei bod yn bosibl lliniaru canlyniadau 'dim bargen' yn llawn yn golygu na ddylem ni ac nad ydym ni, fel Llywodraeth gyfrifol, yn gweithredu paratoadau pwyllog a chymesur er mwyn rhagweld yr effeithiau waethaf, a cheisio gwneud yr hyn a allwn i ymdopi â hwy. Fel y gwn ei bod yn gwybod, rydym yn rhoi cyfres o gamau sylweddol ar waith ar draws pob portffolio er mwyn gwneud hynny. Yn wir, dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn ystyried pa gamau pellach y gallem eu cymryd o ystyried bod y dyddiad ymadael wedi'i ohirio tan yr hydref. Mae'n bwysig o hyd ein bod yn gwneud hynny, er ein bod o'r farn na ellir lliniaru'r difrod yn llawn yn y pen draw, a dweud y lleiaf.
Mae hi'n gwneud y pwynt am annibyniaeth. Wrth gwrs, gwyddom fod ein cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban yn dadlau dros y safbwynt hwnnw yn y fan honno. Y gwahaniaeth yno yw eu bod wedi sefyll ar faniffesto'n dadlau'r achos dros annibyniaeth ac wedi ennill, ac felly maent wedi ennill yr hawl i gyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Nid yw hynny'n wir yma yng Nghymru.