Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 12 Mehefin 2019.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Adleisiwyd yr hyn rydych newydd ei danlinellu o amgylch y Siambr hon gan Aelodau a phwyllgorau amrywiol y Cynulliad. Yn amlwg, nid yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gweithio. Mae'n dibynnu'n fawr ar sut y mae unigolion yn San Steffan yn ei weld, ac a ydynt am ei weld yn gweithio ai peidio. Nid oes strwythur ffurfiol. Nid oes unrhyw statws yn sail iddo.
Cafwyd adolygiad o'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion, a gychwynnwyd gan San Steffan, ond mae dros 12 mis ers hynny bellach, ac rydym yn dal i ddisgwyl ei ganlyniad. Yn sicr, mae'n bryd i ni, gyda gwledydd eraill y DU, ddechrau dweud wrth Lywodraeth y DU, 'Rhaid i'r strwythur hwn newid. Rhaid iddo fod yn seiliedig ar statud. Mae angen i ni gael strwythur sy'n trin pob gwlad yn gyfartal, a phob Llywodraeth yn gyfartal, o fewn y trafodaethau hyn' ac felly fe'i tanategir er mwyn sicrhau na all unrhyw unigolyn benderfynu a yw'n beth da neu'n beth drwg.