Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 12 Mehefin 2019.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud fy mod yn rhyfeddu ei bod yn ymddangos bod gan Weinidogion Llafur Cymru fwy o ddiddordeb mewn ceir sy'n cael eu gyrru gan chaffeurs nag sydd ganddynt mewn materion go iawn. Rwy'n siŵr na fyddai Llywodraeth Cymru am ganiatáu i'w hadnoddau gael eu defnyddio i gefnogi gweithgareddau sy'n tanseilio ei hamcanion polisi hithau chwaith, ac a dweud y gwir rwy'n credu y dylai Gweinidogion dyfu fyny a gwrando ar bobl Cymru a bleidleisiodd dros adael yr UE yn 2016. Ni chyfeirioch chi yn eich ateb yn awr at y strategaeth negodi y gallai'r Prif Weinidog fod yn ei defnyddio, neu beidio, ym Mrwsel heddiw. Ond a wnewch chi ddweud wrthym a fydd yn ailadrodd ewyllys pobl Cymru a bleidleisiodd dros adael yr UE yn 2016, ac os na fydd, pam ddim?