Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 12 Mehefin 2019.
Mae gennym fecanweithiau ar waith i sicrhau bod penderfyniadau ar feysydd datganoledig yn parhau'n gyfrifoldeb i ni drwy'r cytundeb rhynglywodraethol. O ran trafodaethau'n ymwneud â'r negodiadau masnach, mae trafodaethau ar lefel swyddogol yn mynd rhagddynt er mwyn sicrhau lefel o warchodaeth i Gymru cyn y trafodaethau hynny.