Pleidlais y Bobl

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:08, 12 Mehefin 2019

Rwy'n cofio, yn fy ymateb y tro’r diwethaf, wnes i ddweud fy mod i'n hapus iawn i gydweithio ar y mater hwn, ac mae hynny’n dal yn wir, a buaswn i’n hapus cael trafodaethau ynglŷn â sut allwn ni orau wneud hynny. O’n safbwynt ni fel plaid, rwy'n teithio i Lundain yn hwyrach yr wythnos yma i drafod y cwestiwn hwn gyda’r Blaid Lafur yn San Steffan, i ddwyn perswâd arnyn nhw ynglŷn â sut allwn ni gymryd camau penodol i ddwyn y cwestiwn yma o refferendwm o flaen y Senedd yn San Steffan.