2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru ar 12 Mehefin 2019.
7. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad ar bolisi Llywodraeth Cymru ynglŷn â phleidlais y bobl? OAQ54020
Diolch am y cwestiwn. Yn fwyaf diweddar, fe roddais i ddiweddariad yn fy ymateb i ddadl Plaid Cymru yr wythnos diwethaf. Trwy gefnogi’r cynnig ar refferendwm cadarnhau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, fe wnaethon ni fynegi ein safbwynt polisi yn eglur.
Rydyn ni'r ochr yma, wrth gwrs, yn croesawu’r safiad newydd yma gan eich Llywodraeth chi, ond yn ogystal â geiriau, beth rydyn ni ei angen rŵan ydy gweithredu. A wnaiff eich Llywodraeth chi, felly, gydweithio efo fy mhlaid i er mwyn rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru i gynnal pleidlais y bobl ac i weithio efo ni i gynllunio ynglŷn â sut i wneud hynny? Pan wnes i ofyn hyn ichi cyn etholiad Ewrop, mi ges i ymateb ychydig yn llugoer, os dwi’n cofio’n iawn. Gobeithio y gallwch chi fod yn fwy cadarnhaol heddiw.
Rwy'n cofio, yn fy ymateb y tro’r diwethaf, wnes i ddweud fy mod i'n hapus iawn i gydweithio ar y mater hwn, ac mae hynny’n dal yn wir, a buaswn i’n hapus cael trafodaethau ynglŷn â sut allwn ni orau wneud hynny. O’n safbwynt ni fel plaid, rwy'n teithio i Lundain yn hwyrach yr wythnos yma i drafod y cwestiwn hwn gyda’r Blaid Lafur yn San Steffan, i ddwyn perswâd arnyn nhw ynglŷn â sut allwn ni gymryd camau penodol i ddwyn y cwestiwn yma o refferendwm o flaen y Senedd yn San Steffan.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Pwynt o drefn—David Rees.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gofyn y pwynt o drefn hwn oherwydd, pan oedd y Gweinidog Brexit yn ateb cwestiwn i arweinydd ei phlaid, gweiddodd yr Aelod o Blaid Brexit dros ogledd Cymru o'i sedd, yn gwbl glir, oherwydd rwyf ar yr ochr arall i'r Siambr, a gallwn glywed, 'Celwyddgi'. Nawr, mae hwnnw'n ymddygiad neu'n iaith annerbyniol gan unrhyw Aelod yn y Siambr hon. Er y gall fod gwahaniaeth barn, mae galw rhywun yn gelwyddgi yn ymddygiad hollol wahanol ac annerbyniol. Felly, gofynnaf ichi ystyried y safbwynt hwn a gofyn i'r datganiad hwnnw gael ei dynnu'n ôl ac ymddiheuriad i'r Aelod.
Diolch ichi am y pwynt o drefn ac am roi rhybudd ymlaen llaw i mi yn ei gylch, a chaniatáu i mi fyfyrio ar y cyhuddiad a wnaethpwyd gan Aelod o Blaid Brexit heddiw, ond hefyd, cyhuddiad tebyg yr wythnos diwethaf yn defnyddio'r un term gan Aelod o Blaid Cymru yn erbyn Aelod o Blaid Brexit. Yn gyffredinol, mae gormod ohonoch yn rhy awyddus i fod yn amharchus wrth Aelodau eraill yn y lle hwn, ac nid wyf eisiau treulio fy holl amser yn plismona'r defnydd o iaith gan Aelodau yn y lle hwn. Rwyf am wrando ar ansawdd eich dadl. Ond yn amlwg, nid yw i un Aelod gyhuddo'r llall o fod yn 'gelwyddgi' yn dderbyniol a bydd angen i hynny ddod i ben. O ystyried y digwyddiad yr wythnos diwethaf a'r digwyddiad yr wythnos hon, rwy'n ystyried hon yn gêm gyfartal 1-1. Ac rwy'n mynd i ddweud mai dyna ddiwedd y gêm, ac ni fydd cyhuddiadau o fod yn 'gelwyddgi' ac iaith amharchus yn cael eu goddef rhagor. Rwyf am i bob un ohonoch ystyried hynny ym mhob un o'ch cyfraniadau, ar eich eistedd a phan fyddwch ar eich traed. A diolch i David Rees am roi'r cyfle imi wneud hynny'n glir heddiw.