Trwydded Deledu am ddim

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 3:11, 12 Mehefin 2019

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Fe gytunwyd ar y setliad ariannol ar gyfer 2015 rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r BBC oedd yn cynnwys terfynu’r cyllid ar gyfer y consesiwn i bobl dros 75 oed, heb unrhyw ymgynghori na chraffu gan Senedd y Deyrnas Unedig na’r Senedd hon, na’r gweinyddiaethau datganoledig. Mi fydd y penderfyniad yn effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed ac ynysig yn ein cymdeithas.