Part of the debate – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 12 Mehefin 2019.
Mae'r rhesymau a roddwyd gan dystion am y gwahaniaeth hwn yn cynnwys diffyg modelau rôl benywaidd ym myd chwaraeon, pwysau gan gyfoedion a hunan-barch isel. Mae tystiolaeth gan Women in Sport yn nodi bod merched yn llawer mwy tebygol o fod yn hunanymwybodol, ac erbyn eu bod yn 14 i 16 mlwydd oed, mae tua un o bob tair merch, 36 y cant, yn anhapus gyda delwedd eu cyrff.
Pwysleisiodd llawer o dystion yr angen i ddechrau peidio â gwahaniaethu rhwng chwaraeon i ddynion a menywod. Clywsom fod ystrydebau o ran rhywedd yn dechrau ffurfio yn gynnar iawn, gyda merched yn cael eu magu i gredu nad ydynt mor dda mewn chwaraeon â bechgyn. Dywedodd Laura Matthews o Women in Sport wrthym y gall hyn ddigwydd fesul tipyn, gydag ymadroddion fel 'Rwyt ti'n taflu fel merch' yn rhoi’r argraff i ferched yn ifanc iawn nad ydyn nhw cystal â bechgyn. A bydd teimladau tebyg yn golygu bod merched yn llai tebygol o fod eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon.
Clywsom hefyd am y diffyg modelau rôl benywaidd ym myd chwaraeon yn y cyfryngau a'r diffyg sylw a roddir i chwaraeon menywod. Yn ôl ymchwil a wnaed gan Women in Sport, mae chwaraeon i fenywod yn cyfrif am 7 y cant o'r holl sylw a roddir i chwaraeon yng nghyfryngau'r Deyrnas Unedig. Er ein bod yn cydnabod y bu gwelliannau, mae rhywfaint o waith i'w wneud o hyd yn y maes hwn. Felly, rydym ni'n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i argymhelliad 14, y bydd yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i gefnogi datblygiad pellach ymgyrchoedd fel Our Squad a #WatchHerGo i annog merched i gymryd rhan mewn chwaraeon yn fwy cyffredinol.
Ac i gloi, felly, y sylwadau agoriadol, mae anweithgarwch corfforol yn broblem genedlaethol sy’n effeithio arnom ni i gyd. Rydym angen ymyriadau effeithiol o ran iechyd y cyhoedd i helpu i fynd i'r afael efo'r materion cysylltiedig. Fodd bynnag, ni allwn ddibynnu ar gyrff cyhoeddus ac ysgolion yn unig. Mae gan rieni hefyd rôl bwysig wrth ddylanwadu ar weithgarwch corfforol eu plant. Rydym yn croesawu’r gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru yn yr ymgynghoriad 'Pwysau Iach: Cymru Iach' am yr angen i ganolbwyntio ar ddulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar deuluoedd, ac rydym yn ei hannog i ddwyn hyn ymlaen yn y strategaeth derfynol, gyda thargedau uchelgeisiol a threfniadau monitro effeithiol i sicrhau deilliannau pendant. Oherwydd os na fyddwn yn dechrau cymryd camau brys nawr i newid agweddau tuag at weithgarwch corfforol, rydym yn creu problemau i genedlaethau’r dyfodol. Diolch yn fawr.