5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gweithgarwchedd Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 3:53, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Clywsom dystiolaeth gymhellol fod angen i sgiliau echddygol sylfaenol gael eu dysgu ar oedran cynnar. Ceir camsyniad y bydd yr holl sgiliau'n datblygu'n naturiol yn ystod plentyndod, ac nid yw hynny'n wir o gwbl. Clywsom dystiolaeth fod sgiliau echddygol sylfaenol, fel llawer o sgiliau academaidd eraill, angen cyfarwyddyd a chyfleoedd sy'n ddatblygiadol briodol i ymarfer sgiliau mewn amgylcheddau dysgu cyfoethog. Mae plant sydd wedi'u dal yn ôl o ran eu sgiliau echddygol sylfaenol yn llai tebygol o fod yn gorfforol egnïol yn awr ac yn y dyfodol.

Clywsom am gyfarwyddyd cinesthetig llwyddiannus i blant cyn oed ysgol—SKIP—rhaglen o ddatblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar dystiolaeth a ddefnyddiwyd i hyfforddi athrawon, cynorthwywyr dysgu a rhieni ynghylch pwysigrwydd symud yn gynnar i ddatblygiad plentyn. Dywedodd Dr Nalda Wainwright, cyfarwyddwr Athrofa Llythrennedd Corfforol Cymru, ac rwy'n dyfynnu,   rydym yn hyfforddi'r athrawon i ddeall sut y mae plant yn symud drwy'r camau hynny. Maent yn ei wneud mewn llythrennedd a rhifedd, ond nid oes neb wedi dysgu hynny iddynt mewn cyd-destun corfforol. Cafwyd y fath gamargraff yn y byd academaidd ynghylch datblygiad echddygol—sy'n awgrymu bod plant yn dysgu hynny eu hunain drwy chwarae. Ond mae hynny fel taflu bag o lythrennau i ystafell a dweud, "Chwaraea ddigon gyda'r rhain ac fe wnei di ddysgu darllen"'.

Fe wnaethom argymell felly—argymhelliad 5—fod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau pellach yn y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei alluogi i ddatblygu'r sgiliau echddygol sylfaenol hanfodol sydd eu hangen ar oedran cynnar yn yr ysgol, a sicrhau bod bylchau presennol yn y cyfnod sylfaen sy'n gysylltiedig â'r sgiliau hyn yn cael sylw llawn. Byddem yn cefnogi buddsoddiad er mwyn cyflwyno rhaglenni fel SKIP Cymru ledled y wlad i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn gallu cefnogi plant yn ddigonol i ddysgu'r sgiliau hyn. Er ei bod yn ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn, nid yw'n cael ei adlewyrchu'n glir yn yr ymateb, sy'n sôn am y cyfnod sylfaen a'r adnoddau presennol sy'n cyflawni'r gofynion ac yn nodi y gallent ddatblygu astudiaeth achos ar raglen SKIP Cymru. Mewn ymateb i'r datganiad hwn, dywedodd Dr Nalda Wainwright wrthym, ac rwy'n dyfynnu,

Mae'n hynod siomedig, yng Nghymru, lle mae gennym y lefelau uchaf yn Ewrop o ordewdra ymhlith plant a lle mae traean o'r plant yn byw mewn tlodi, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo mai ymateb priodol i argymhellion yr adroddiad yw dyfynnu cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen, y dengys ymchwil a gyhoeddwyd nad yw'n datblygu'r sgiliau echddygol angenrheidiol. Maent hefyd yn awgrymu bod adnoddau heb sylfaen dystiolaeth yn fodel addysgeg ar gyfer addysg gorfforol. Drwy anwybyddu'r dystiolaeth mae Llywodraeth Cymru mewn perygl o wneud cam â phlant ifanc a theuluoedd Cymru yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig lle maent yn wynebu argyfwng cynyddol o anweithgarwch, datblygiad echddygol gwael a lefelau gordewdra cynyddol. 

Mae'n amlwg i ni nad yw ysgolion yn rhoi digon o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol, ac mae'n rhaid i hyn newid. Mae'r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle gwych i unioni'r fantol a rhoi'r sylw a'r flaenoriaeth y mae'n ei haeddu i weithgarwch corfforol. Mae'n achos pryder mawr i ni glywed nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion yn cyflawni'r 120 munud yr wythnos a argymhellir o addysg gorfforol, a bod lleihau'r amser a neilltuir i addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn arfer cyffredin oherwydd pwysau'r cwricwlwm. Cytunwn â rhanddeiliaid y dylai'r 120 munud yr wythnos a argymhellir fod yn ofyniad statudol, gan ei gwneud yn glir mai targed isaf yw hwn, ac y dylid annog mwy o weithgarwch os yn bosibl. Felly, rydym yn hynod siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr argymhelliad hwn, o ystyried y dystiolaeth nad yw'n digwydd yn y mwyafrif helaeth o ysgolion yng Nghymru.

Er mwyn dyrchafu'r statws a'r flaenoriaeth a roddir i weithgarwch corfforol mewn ysgolion, rydym hefyd yn cytuno bod yn rhaid i Estyn ei arolygu er mwyn monitro cydymffurfiaeth â'r 120 munud a hefyd er mwyn asesu ansawdd y profiad o addysg gorfforol. Unwaith eto, er bod argymhelliad 9—y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o flaenoriaeth i addysg gorfforol yn y cwricwlwm newydd a gwneud y flaenoriaeth hon yn glir i Estyn—wedi'i dderbyn, mae'r naratif cysylltiedig yn nodi'r hyn y mae Estyn yn ei wneud ar hyn o bryd, er bod yr argymhelliad yn galw am weithredu o'r newydd, i roi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol yng ngweithdrefn arolygu Estyn. Felly nid yw'n ymddangos bod yr argymhelliad wedi'i dderbyn mewn gwirionedd. Buaswn yn ddiolchgar am sylwadau'r Gweinidog ar hyn.

Clywsom am bwysigrwydd darparu dewis priodol o weithgareddau a chynnwys disgyblion yn y broses o ddatblygu'r gweithgarwch corfforol a'r chwaraeon a gynigir yn eu hysgolion. Ategwyd hyn yn ein trafodaethau â disgyblion yn Ysgol Basaleg, a ddywedodd wrthym fod gan yr ysgol ddull gweithredu cytbwys, a bod cael opsiwn yn bwysig, yn enwedig i'r rhai nad oeddent am gymryd rhan mewn ymarfer corff ffurfiol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 7 felly, i sicrhau bod pob ysgol uwchradd yn ymgynghori'n rheolaidd â disgyblion ynglŷn â'r dewis a'r ystod o weithgareddau corfforol sydd ar gael iddynt ac yn sicrhau bod eu barn yn cael ei hystyried.

Edrychwyd ar y gwahaniaethau yn agweddau bechgyn a merched tuag at weithgarwch corfforol. Mae'r arolwg o chwaraeon mewn ysgolion ar gyfer 2018 yn dangos bod 50 y cant o fechgyn yn cymryd rhan mewn chwaraeon dair gwaith neu fwy yr wythnos o'i gymharu â 46 y cant o ferched. O ran agweddau tuag at chwaraeon, mae mwynhad o addysg gorfforol mewn ysgolion cynradd yn debyg rhwng y rhywiau—75 y cant ymhlith bechgyn o gymharu â 71 y cant ymhlith merched—ond mae'r darlun yn newid ar lefel uwchradd. Yma, tra bod 64 y cant o fechgyn yn mwynhau addysg gorfforol, dim ond 45 y cant o ferched sy'n dweud hynny.