Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 12 Mehefin 2019.
Hoffwn ddechrau drwy ganmol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am yr hyn sydd, yn fy marn i, yn waith diddorol iawn. Dilynais yr ymchwiliad hwn yn fanwl, ac rwyf am ganolbwyntio ar un neu ddau o argymhellion heddiw. Mae hwn yn fater sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae'n agos at fy nghalon fel rhiant, mae'n agos at fy nghalon fel cyn-athrawes a hefyd fel cyn-weithiwr cynllun chwarae, ac fel rhywun sydd wedi ymgyrchu ar wella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc ers i mi gael fy ethol.
Yn ogystal â hynny, rwy'n awyddus i weld dull Llywodraeth gyfan o ymdrin â'r mater hwn, a gobeithio y gallaf ymchwilio i hynny yn fy nghyfraniad heddiw, gan ddechrau gydag argymhellion 3 a 4, sy'n argymell dull o weithredu sy'n canolbwyntio ar y teulu ac sy'n galw ar Chwaraeon Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu rhaglen briodol. Rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn, gan ei fod yn cynnig ffordd ar gyfer gwella iechyd plant a phobl ifanc fel catalydd ar gyfer lles y teulu cyfan. Yn ymateb Llywodraeth Cymru, gwn fod cyfeiriad at bartneriaeth gweithgarwch corfforol Cymru, a allai wella lefelau gweithgarwch corfforol. Hefyd, hoffwn weld cyfraniad gan fentrau megis tasglu'r Cymoedd mewn perthynas â chysyniad parc rhanbarthol y Cymoedd hefyd. Mewn ardaloedd fel fy ardal i, gallai hon fod yn ffordd hygyrch a rhad iawn o gael pobl i ddod allan a mwynhau'r amgylcheddau nad ydynt yn rhai trefol sydd, yn llythrennol, ar garreg drws pobl.
Rwyf wedi siarad o'r blaen—credaf mai dyna oedd fy nadl fer gyntaf yn ôl yn 2016—am yr hyn a elwir yn 'anhwylder diffyg natur'. Mae'n seiliedig ar ymchwil sy'n dangos mai dim ond 13 y cant o blant Cymru a oedd yn ystyried bod ganddynt gysylltiad agos â byd natur. Rwy'n credu bod hynny'n syfrdanol. Mae'n ffigur is na'r Alban, Gogledd Iwerddon neu Lundain hyd yn oed. Yn yr un modd, fel rhywun sy'n hoff iawn o hanes diwydiannol, credaf fod cyfleoedd yma yn gysylltiedig â'n treftadaeth ddiwydiannol. Rwyf wedi sôn yn y Siambr hon o'r blaen am fy angerdd ynglŷn â thwnnel Aber-nant, sy'n cysylltu Cwm-bach yn fy etholaeth â Merthyr Tudful. Os caiff ei ailagor, gallai fod yn atyniad go iawn fel llwybr teithio llesol, a gwn fod llawer o gynlluniau eraill tebyg a allai gael yr un effeithiau cadarnhaol.
Mae argymhelliad 11 yn arf arall defnyddiol iawn. Mae caniatáu mynediad ehangach at gyfleusterau ysgolion, yn enwedig rhai sydd wedi eu hadnewyddu o dan ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, yn synnwyr cyffredin. Rwy'n falch fy mod wedi gallu gweithio gyda chyngor Rhondda Cynon Taf yn ddiweddar ar geisiadau gan gymuned leol i blant allu chwarae ar MUGA newydd sbon—man chwarae amlddefnydd, i'r rhai nad ydynt yn gwybod—mewn ysgol gynradd yng Nghwm-bach. Mae'n gwneud synnwyr y dylem agor yr ardaloedd hyn y tu allan i oriau ysgol er mwyn i'r gymuned allu elwa ohonynt.
Hoffwn fynd y tu hwnt i hyn a thynnu sylw hefyd at fy nghynnig blaenorol ar gyfer Bil chwarae cynhwysol. Byddai hwnnw wedi sicrhau bod cyfleoedd chwarae yn diwallu anghenion yr holl blant a phobl ifanc yn y gymuned, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig ei fod yn parhau'n flaenoriaeth.
Mae Chwaraeon Anabledd Cymru, yn eu tystiolaeth, a ddyfynnir drwy'r adroddiad, wedi cyflwyno achos pwerus dros fynd ati o ddifrif ac integreiddio cynwysoldeb mewn ymatebion llywodraethol. Yn yr un modd, gobeithiaf y byddaf yn cyfarfod â'r Dirprwy Weinidog iechyd yn y dyfodol agos iawn i drafod chwarae cynhwysol ac edrychaf ymlaen at glywed sut y mae gwaith ar wahanol ymatebion yn mynd rhagddo.
Mae argymhelliad 16, ar y grant datblygu disgyblion, hefyd yn bwysig iawn yn fy marn i. Ar sail ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae un o bob pedwar plentyn rhwng 11 ac 16 oed yn ardal Cwm Taf yn ordew, fel y mae bron i 15 y cant o blant rhwng pedair a phump oed. Dyma'r ffigurau uchaf yng Nghymru, ac yn syml iawn, nid ydynt yn dderbyniol. Pan geir cysylltiadau clir rhwng amddifadedd a gordewdra, mae hi mor bwysig ein bod yn defnyddio dulliau fel y grant datblygu disgyblion i geisio unioni hyn.
Rwy'n derbyn ymateb Llywodraeth Cymru fod rhai enghreifftiau da o hyn yn bodoli eisoes, ond hoffwn weld mwy o waith ar y pwynt hwn. Yn yr un modd, hoffwn weld cynnydd ar y posibilrwydd o gyflwyno ardoll diodydd meddal—argymhelliad 20. Yng Nghymru, fe wyddom fod y siwgr a fwyteir dair gwaith yn fwy na'r hyn a argymhellir ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau rhwng 11 ac 16 oed, a chyda Wythnos Diabetes yn digwydd yr wythnos hon, gallai fod manteision amlwg yma.
I gloi, hoffwn ystyried argymhelliad 19, sy'n ymwneud ag adran 106 a chyfleusterau hamdden hygyrch gyda datblygiadau tai newydd. Yn ddiweddar adeiladodd Persimmon ystâd newydd sbon yn fy etholaeth, ac roedd eu llyfryn sgleiniog yn dangos man chwarae yng nghanol yr ystâd. Bum mlynedd yn ddiweddarach, ni cheir ardal chwarae, dim ond tir dympio i'r datblygwr, a phob gwyliau ysgol mae preswylwyr yn gofyn imi pryd y bydd y man chwarae'n agor, ond yr unig ymateb a gawn yw rhagor o gymylu'r dyfroedd ac oedi. Mae hwn yn fater y cyffyrddwyd arno'n ddiweddar ym mhwyllgor yr economi, yn ein hymchwiliad i adeiladwyr tai lleol. Yn bendant, mae awdurdodau lleol yn gyndyn o adeiladu mannau agored yn awr o ganlyniad i gyni ariannol, a chredaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni edrych arno yn y dyfodol.