Part of the debate – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 12 Mehefin 2019.
Hoffwn fynegi fy niolch, fel y mae eraill eisoes wedi'i wneud, i bawb a gymerodd ran yn y gwaith pwysig hwn gan ein pwyllgor. Wrth gwrs, deuthum at y gwaith hwn tua'r diwedd—ymunais â'r pwyllgor tuag at ddiwedd y broses—ac mae wedi bod yn agoriad llygad i edrych yn ôl a darllen drwy rywfaint o'r dystiolaeth wrth baratoi ar gyfer ymateb i adroddiad drafft y pwyllgor. Fel y mae eraill wedi dweud—ac nid wyf am dreulio amser y Siambr yn ei ailadrodd—mae hwn yn fater eithriadol o ddifrifol. Mae'r effaith hirdymor ar blant o gario gormod o bwysau ac o beidio â bod yn heini pan fyddant yn fach iawn yn un gydol oes, a chredaf y dylem fod yn ymwybodol o'r sylwadau a wnaethpwyd gan y Fonesig Tanni Grey-Thompson heddiw ynglŷn â'r modd y cronnwn broblemau ar gyfer y dyfodol os nad ydym yn ymdrin â'r materion hyn yn awr, i'r plant unigol hynny, ond hefyd i bob un ohonom fel cymdeithas.
Wrth gwrs, fel y dywedodd Dai Lloyd, mae'n gadarnhaol iawn ar un lefel fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn cynifer o argymhellion y pwyllgor. Ond fel y dywedodd Dai eisoes, mae'n ymddangos bod gormod o'r derbyniad hwnnw'n dweud, 'Mae'n berffaith iawn gan ein bod eisoes yn ei wneud'. Wel, ar ôl edrych yn ôl ar y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor, nid yw hyn yn wir, a buaswn yn annog Gweinidogion Cymru i roi'r parch a'r ddealltwriaeth i'r pwyllgor na fyddem yn argymell eich bod yn gwneud pethau rydych eisoes yn eu gwneud. Efallai y byddem yn eich llongyfarch, efallai y byddem yn dweud pa mor ddiolchgar rydym i chi am hynny, ond ni fyddem yn gofyn i chi wneud pethau rydych eisoes yn eu gwneud.
Hoffwn ddweud ychydig eiriau'n gyflym am dri argymhelliad penodol, Ddirprwy Lywydd. Nawr, o ran ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 5, sy'n ymwneud â sgiliau athrawon yn y blynyddoedd cynnar a pha mor bwysig yw hi i blant ddatblygu'r sgiliau symud sylfaenol hynny, mae'r dystiolaeth yn glir iawn: mae ymateb y Llywodraeth yn dweud efallai y gallwn wneud mwy o astudiaethau achos. Wel, rydym eisoes wedi gwneud y gwaith hwnnw; nid oes angen i chi ei wneud. Ceir dulliau sefydledig o wella sgiliau addysgwyr yn y maes hwn, ac mae'r dystiolaeth, fel y dywedodd Dai eisoes, yn glir nad yw'r sgiliau yno ar hyn o bryd. Hynny yw, hyfforddais fel athrawes a dysgodd pobl lawer i mi am ddatblygiad plant a oedd yn ymwneud â llythrennedd a llawer am ddatblygiad plant a oedd yn ymwneud â rhifedd, ond disgwylid y byddai datblygiad corfforol plentyn yn dod drwy chwarae. Rydym yn gwybod nad yw hynny'n wir.
Felly, rydym yn derbyn argymhelliad yn y fan hon, ond nid yw ond yn dderbyniad sy'n dweud wrthym fod popeth yn iawn, mae'n digwydd beth bynnag. Wel, nid yw popeth yn iawn ac nid yw'n digwydd beth bynnag. Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dau o argymhellion y pwyllgor, ac mewn rhai ffyrdd wrth gwrs, mae perffaith hawl gan y Llywodraeth i wneud hynny. Ac rwyf am sôn yn fyr am argymhelliad 6 ac yna am argymhelliad 8.
Felly, mae argymhelliad 6 yn sôn am ofyn i'r Llywodraeth ystyried cyflwyno rhaglen fuddsoddi i wella cyfleusterau gweithgarwch corfforol mewn ysgolion presennol. Nawr, bydd pob un ohonom wedi ymweld ag ysgolion yn ein hetholaethau a'n rhanbarthau ein hunain ac wedi gweld mai'r gofod a ddefnyddir ar gyfer gweithgarwch corfforol dan do, er enghraifft, yw'r gofod a ddefnyddir ar gyfer bwyta prydau bwyd hefyd, ac yn aml iawn dyma'r gofod sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthiadau ychwanegol—mae hyn yn arbennig o wir mewn ysgolion cynradd. Nawr, mae ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad hwnnw—ac fe wyddom hyn fel pwyllgor wrth gwrs—yn dweud mai mater i awdurdodau lleol yw hwn. Wel, wrth gwrs ei fod yn fater i awdurdodau lleol, ond roedd tystiolaeth y pwyllgor yn glir nad yw awdurdodau lleol yn gwneud y buddsoddiad angenrheidiol hwnnw yn yr ysgolion y tu allan i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a dyna'n union pam ein bod wedi gofyn i'r Llywodraeth wneud rhywbeth yn ei gylch. Nawr, wrth gwrs nad yw pot y Llywodraeth yn llawn, wrth gwrs ein bod yn gwybod bod yna lawer o bwysau, ond mae hyn yn hollbwysig. A hoffwn annog y Llywodraeth i ailedrych ar eu gwrthodiad i'r argymhelliad hwnnw. Pe bai awdurdodau lleol yn gallu, neu'n awyddus i unioni hynny, byddent wedi ei wneud eisoes, ac maent naill ai'n methu neu nid ydynt wedi gwneud hynny.
Ac i droi eto at argymhelliad 8 a gwrthodiad y Llywodraeth i dderbyn yr angen i ddeddfu ar gyfer 120 munud o ymarfer corff fan lleiaf, nawr, rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Llywodraeth ynglŷn â'r ffaith bod y cwricwlwm newydd, yn ôl ei natur, yn llai rhagnodol, ac fel cyn-athrawes fy hun, rwy'n croesawu hynny'n llwyr. Ond darllenais ymateb y Llywodraeth yn fanwl iawn, ac nid yw'n glir i mi o gwbl sut y mae unrhyw beth y maent yn bwriadu ei wneud yn mynd i wneud y gwahaniaeth sydd ei angen. Gwyddom fod gweithgareddau corfforol yn cael eu gwasgu. Yn y blynyddoedd cynnar, fel y dywedais, efallai na fydd sgiliau yn y gweithlu addysgu a chymorth; efallai nad oes gofod ffisegol ar gael. Gyda disgyblion hŷn, bydd yna bwysau arholiadau. Nawr, unwaith eto, gobeithio y bydd y cwricwlwm newydd yn codi rhywfaint o'r pwysau, ond mae yna bwysau o ran arholiadau ac mae yna amharodrwydd ymhlith disgyblion, yn enwedig yn achos merched a menywod ifanc.
Nid wyf wedi fy argyhoeddi, ac nid wyf yn credu y byddai neb arall a ddarllenodd y dystiolaeth wedi eu hargyhoeddi, fod dull gweithredu'r Llywodraeth yn mynd i atal hyn. Felly, os mai'r llwybr yw peidio â deddfu ar gyfer 120 munud, mae angen inni gael ffordd arall o wneud yn siŵr fod amser gweithgarwch yn cael ei ddiogelu rywsut, a buaswn yn falch o glywed mwy gan y Llywodraeth heddiw ynglŷn â sut y bwriadant wneud hynny.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni all dim fod yn bwysicach nag iechyd corfforol ein plant; mae eu dyfodol cyfan yn dibynnu arno, eu gallu i ddysgu'n academaidd, eu gallu i dyfu i fod yn union y math o ddinasyddion y mae'r cwricwlwm newydd yn dweud ein bod yn awyddus i'w creu. Yr hyn na allwn ei gael yn yr agenda bwysig hon yw hunanfodlonrwydd a difaterwch.