Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 12 Mehefin 2019.
Cefais y fraint o fod yn aelod o'r pwyllgor wrth i'r ymchwiliad i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc gael ei gynnal. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau'r pwyllgor, y clercod a phawb a roddodd dystiolaeth dros gyfnod yr ymchwiliad. Fel cyn-athrawes addysg gorfforol fy hun, mae'r pwnc hwn a'i bwysigrwydd yn agos iawn at fy nghalon—rwy'n deall yn llwyr, ar ôl blynyddoedd lawer o astudio sut y mae twf a datblygiad corfforol ac emosiynol yn cael eu gwella drwy weithgarwch corfforol, a'i bwysigrwydd i'r twf hwn a'i berthynas ag ef.
Fel y mae Dai yn ei ddweud yn gwbl gywir yn y rhagair i'r adroddiad, gordewdra yw un o'r heriau mwyaf difrifol yn fyd-eang ym maes iechyd cyhoeddus ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac mae gan Gymru un o'r lefelau uchaf o ordewdra yng ngorllewin Ewrop. Rwy'n croesawu 20 argymhelliad y pwyllgor ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf ohonynt. Mae'n wirioneddol siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod dau o'r rhai pwysicach, sef argymhellion 6 ac 8.
Mae plant yn treulio llawer o'u hwythnos yn yr ysgol, ac eto mae llai na'u hanner yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol dair gwaith neu fwy yr wythnos. O ganlyniad, mae llai na hanner y plant yn bodloni'r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgarwch corfforol. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder yw mai dim ond un o bob 6 o blant 11 i 16 oed sy'n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cymharol egnïol i egnïol iawn am o leiaf awr y dydd. Ni allwn ei adael i awdurdodau addysg lleol sicrhau gwelliant. Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad.
Yn ddiweddar, cefais siom o glywed am y bwriad i fyrhau'r diwrnod ysgol yn Ysgol Gynradd Notais yn fy rhanbarth. Bydd y newidiadau arfaethedig i'r diwrnod ysgol er mwyn cyd-fynd â'r ysgol gyfun gyfagos yn dileu egwyl y bore ac yn torri 20 munud oddi ar amser cinio'r disgyblion, a bydd y newid hwn yn lleihau'n ddramatig y cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol i ddisgyblion yn yr ysgol hon. Mae chwarae'n hanfodol i iechyd a lles ein pobl ifanc, a dylem fod yn cynyddu cyfleoedd, nid eu lleihau, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei safbwynt ar argymhellion 6 ac 8.
Yn olaf, er fy mod yn croesawu argymhelliad 19 y pwyllgor a'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi ei dderbyn mewn egwyddor, hoffwn ofyn i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach. Rhaid i ddatblygiadau tai cymdeithasol newydd gynnwys mannau gwyrdd mor agos i'r annedd â phosibl. Dylai pob cartref gael gardd unigol i blant chwarae ynddi, a lle nad yw hynny'n bosibl, gardd a rennir.
Rhaid inni fod yn feiddgar os ydym am sicrhau bod ein plant a'n pobl ifanc mor iach ag sy'n bosibl. Diolch yn fawr.