Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 12 Mehefin 2019.
Mae mynd i'r afael â phroblemau iechyd ein cenedl ni'n gorfod bod yn flaenoriaeth. Does prin angen dweud hynny. Dŷn ni'n gwybod bod gordewdra a diffyg gweithgarwch corfforol, sy'n helpu i greu'r gordewdra yna, yn rhywbeth na allwn ni fforddio ei anwybyddu ar unrhyw lefel. Mae yna Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 gennym ni bellach sy'n mynnu bod yna strategaeth mewn lle ar gyfer taclo gordewdra. Roeddwn i'n falch o gael chwarae fy rhan fel llefarydd iechyd Plaid Cymru ar y pryd mewn sicrhau bod y gwelliant hwnnw'n cael ei gynnwys i'r Bil drafft gwreiddiol.
Ond yr her rŵan, wrth gwrs, ydy sicrhau bod strategaeth yn cael ei rhoi mewn lle all yn wirioneddol newid diwylliant at fuddsoddi o'r newydd ac at gyflwyno llawer mwy o frys neu urgency, felly, yng ngweithredoedd y Llywodraeth. A, heb os, mae sicrhau bod camau'n cael eu rhoi mewn lle i annog mwy o weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc yn gorfod bod, dwi'n meddwl, yn ganolog i hynny. Yn wir, roeddwn i'n hynod o falch fel aelod o'r pwyllgor iechyd ar y pryd, fod consensws wedi ei gyrraedd ymhlith yr Aelodau bod hwn yn faes oedd yn haeddu ein sylw ni, a'r adroddiad yma dŷn ni'n ei drafod y prynhawn yma ydy'r canlyniad, wrth gwrs.
Mae'n broblem genedlaethol. Mae'n ddrwg gen i ddweud ei bod hi'n broblem arbennig o ddifrifol yn fy etholaeth i. Mi wnaeth ymchwil diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ddangos bod 13.5 y cant o blant pedair a phump oed yn Ynys Môn yn ordew, a hynny o'i gymharu â 12 y cant drwy Gymru. Mi oedd dros chwarter plant Cymru, gyda llaw, yn cael eu hystyried i fod dros eu pwysau.
Ac mi oeddwn i'n falch iawn mai'r tyst cyntaf ddaeth o'n blaenau ni fel pwyllgor fel rhan o'r ymchwiliad yma oedd Ray Williams, cyn-hyfforddwr corfforol yn y fyddin, enillydd medal aur y Gymanwlad am godi pwysau ac sydd rŵan drwy ei gampfa, sy'n fenter gymdeithasol hynod lwyddiannus yng Nghaergybi, yn trio mynd ati i newid agweddau tuag at iechyd a ffitrwydd. Mi ges i sgwrs efo Ray ddechrau'r wythnos yma ac mae'r ddau ohonom ni'n cytuno bod hwn yn adroddiad defnyddiol iawn, ond bod ymateb y Llywodraeth yn hynod, hynod o siomedig.
Does gennym ni'n dau, yn sicr, ddim amheuaeth mai un o'r prif bethau sydd angen eu gwneud ydy defnyddio'r ffaith bod plant gennym ni yn yr ysgol am gyfran helaeth o'u bywydau nhw er mwyn gyrru newid mewn lefelau ffitrwydd ac iechyd. Yn bersonol, mi fuaswn i'n licio symud at rywbeth fel awr o weithgarwch corfforol bob dydd i bawb drwy gyfuniad o weithgaredd o fewn oriau ysgol, dywedwn ni, a thu allan i'r ysgol. Mi wnaeth y pwyllgor gasglu tystiolaeth ryngwladol. Mi ddaeth Slofenia i'r amlwg fel gwlad wnaeth sylweddoli'r argyfwng iechyd oedd yn eu hwynebu nhw a wnaeth drawsnewid eu hagwedd nhw tuag at gyflwyno gweithgarwch corfforol i fywydau plant a phobl ifanc, ac i wneud hynny'n genedlaethol. Fe wnaf i ddyfynnu o'r adroddiad:
'Mae Senedd Slofenia wedi mabwysiadu Rhaglen Chwaraeon Genedlaethol ar gyfer 2014-2023 sy’n cynnig y camau canlynol: darparu o leiaf 180 munud o AG o ansawdd da yr wythnos i bob plentyn, darparu gwersi nofio a beicio am ddim fel ffordd o wella cymwyseddau cymdeithasol, a sicrhau amser hamdden ar gyfer gweithgareddau chwaraeon.'
Mae'n mynd ymlaen i restru rhai o'r camau eraill. Ac ydy, mae'r amser sy'n cael ei warantu ar gyfer gweithgarwch corfforol yn bwysig, a dyna pam rydw i, fel Cadeirydd y pwyllgor, mor siomedig i weld y Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad y pwyllgor—argymhelliad 8—i wneud y 120 o funudau o addysg gorfforol, sydd yn cael ei argymell yn barod ar gyfer ysgolion, yn statudol. Dydy 120 munud yr wythnos, fel dwi wedi dweud yn barod, ddim yn ddigon uchelgeisiol yn fy nhyb i, ac mae gwrthod hyd yn oed gwarantu hynny yn fethiant mawr, dwi'n meddwl, ar ran y Llywodraeth, i gymryd y mater yma ddigon o ddifri.
A beth sy'n digwydd yn llawer rhy aml, dwi'n gwybod o brofiad fy mhlant fy hun a'r hyn a glywsom ni fel pwyllgor, ydy bod amser gweithgarwch corfforol yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion eraill. Diben argymhelliad 9, wedyn, mewn difri, ydy atal hynny rhag digwydd, drwy gael Estyn i roi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol, i fesur ac i werthuso'r addysg gorfforol sy'n cael ei gynnig. Ydy, mae'r Llywodraeth yn cytuno ar y pwynt o'i wneud o'n flaenoriaeth, ond maen nhw'n gwneud nodyn, wedyn, yn eu hymateb i'r pwyllgor yn dweud nad ydyn nhw wrth gwrs yn cytuno y dylai rhoi mwy o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol olygu sicrhau 120 munud o weithgarwch yr wythnos. Mae hynny eto yn hynod, hynod siomedig.
I gloi, mater arall dwi'n siomedig ynddo fo ydy bod y Llywodraeth yn gwrthod argymhelliad 6 i gyflwyno rhaglen o fuddsoddiad mewn ysgol sydd ddim yn rhan o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Dweud maen nhw, yn eu hymateb, fel clywsom ni gan Helen Mary Jones, ydy mai mater i awdurdodau lleol ydy hyn. Wrth gwrs, mae awdurdodau lleol wedi gweld eu cyllid nhw yn cael ei dorri yn arw, ond buddsoddiad ydy hyn, yn ein plant, yn ein dyfodol. Ddaw iechyd ein cenedl ni ddim am ddim, ac ar ddiwedd y dydd, corff iach, meddwl iach.