Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 12 Mehefin 2019.
Rwy'n ddiolchgar am bwyslais Jenny Rathbone ar y sgiliau sylfaenol a chydsymud hynny a ddysgwch yn ifanc iawn pan allwch wneud pethau—cicio, dal, sgiliau cydsymud ar oedran ifanc iawn. Fe fyddwch yn meithrin hyder wrth wneud hynny o oedran cynnar iawn, yn sicr cyn eich bod yn saith oed. Os nad ydych yn llwyddo i'w wneud, rydych yn meddwl, 'O, nid yw gweithgarwch corfforol yn rhywbeth i mi.' Mae'n sylfaenol bwysig. Nid yw'r cyfnod sylfaen presennol yn mynd i'r afael â hyn.