5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gweithgarwchedd Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 4:53, 12 Mehefin 2019

—y dystiolaeth bwerus yna y gwnaethom ni gael. Dyna oedd un o'r prif rannau o'n tystiolaeth ni i gyd, oedd clywed Ray Williams yn traddodi ei feirniadaeth ar beth ddylai fod yn digwydd, o'i gampfa yng Nghaergybi. Ie, ac hefyd yn cytuno, fel rydym ni fel pwyllgor yn cytuno, fe wnaeth y pwyllgor adroddiad bendigedig, ond bod ymateb y Llywodraeth mor, mor siomedig. A dyna ydy'r ymateb allan yn fanna, achos mae'n gofyn camu yn sylweddol i fyny i'r plât. Fe wnaethom ni glywed hanes Slofenia, gwlad yr un faint â Chymru, 1 miliwn yn llai o bobl na Chymru, annibynnol wrth gwrs, ond yn amlwg yn gallu meddwl yn greadigol ynglŷn â'r pethau yma, a hefyd yn dyfarnu bod angen 180 o funudau bob wythnos. Ac wrth gwrs, maen nhw yn blaenoriaethu gweithgarwch corfforol. Mae o'n hynod, hynod bwysig.