Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 12 Mehefin 2019.
Nid wyf yn dymuno gwneud sylwadau yma am fanteision ac anfanteision penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â bwrw ymlaen â ffordd liniaru'r M4. Rwyf am ganolbwyntio'n syml ar oblygiadau'r penderfyniad a rhoi amlinelliad byr o'r hyn a fydd, yn fy marn ostyngedig i, yn ddewis amgen costeffeithiol—gallai rhywun ddweud 'rhad' bron iawn—a luniwyd i leddfu'r problemau yn nhwnelau Bryn-glas, a thrwy hynny, yn amlwg, dynnu pwysau enfawr oddi ar ysgwyddau'r Gweinidog Cabinet. Mae fy nghyflwyniad yn dechrau gyda'r rhagosodiad fod twnelau Bryn-glas yn 369 metr o hyd ar ei ben. Mewn geiriau eraill, mae'n dwnnel byr. Mae Llywodraeth Cymru newydd wario £42 miliwn, yn gwbl briodol, ar wella'r twnelau i'r safonau diogelwch Ewropeaidd diweddaraf. Felly, rhaid gofyn y cwestiwn sylfaenol: pam y mae'r rhwystr cymharol fach hwn yn achosi'r helbul a welwn ar ffurf y tagfeydd enfawr sy'n nodwedd feunyddiol ar y ffordd i mewn i'r twnelau, i draffig tua'r gorllewin a'r dwyrain?
Fel rhywun sy'n defnyddio'r ffordd ddynesu i'r dwyrain i'r twnelau bron bob dydd, mae gennyf ddiddordeb brwd yn y dylanwadau achosol ar lif y traffig. Mewn gwirionedd, gwneuthum arsylwadau manwl mewn perthynas â llifoedd traffig ysgafn a thrwm, sy'n fy arwain i gredu mai un o'r prif ffactorau sy'n achosi i draffig arafu, gan arwain at dagfeydd a chiwiau hir wedyn, yw'r terfynau cyflymder a osodwyd yn union cyn cyfnewidfa Parc Tredegar. Mae terfyn cyflymder o 40 mya yn aml ar waith o'r gyffordd hon hyd at y twnelau eu hunain—pellter o bron 3 milltir. Fy nadl i yw y byddai unrhyw faterion diogelwch yn deillio o newid lonydd yn hwyr yn cael eu lleddfu i raddau helaeth os nad yn llwyr pe bai'r terfynau cyflymder hyn yn cael eu diystyru a bod dangosyddion lonydd sylweddol yn cael eu gosod ar bontydd arwyddion mawr uwchben, wedi eu gosod ar adegau priodol cyn y twnelau, a phob un yn cynnwys darluniau graffig o'r ddwy lôn sy'n rhoi mynediad i'r twnelau, a'r lôn fewnol, sy'n rhoi mynediad i droad Malpas. Tybiaf mai dyna pam y mae'r terfynau cyflymder yno yn y lle cyntaf. Yn wir, gallai lôn ymadael Malpas gael ei gwneud yn llinell solet â chodau lliw o leiaf filltir cyn y twnelau, a byddai modurwyr yn cael eu rhybuddio y byddai unrhyw newid lôn ar ôl y pwynt hwnnw yn arwain at ddirwy. Byddai'r un arwyddion yn union yn gweithredu ar y ffyrdd dynesu tua'r gorllewin i'r twnelau, gyda'r allanfeydd i Gaerllion a Chwmbrân yn cael eu dangos yn glir, ac unwaith eto, gellid gosod camerâu cosb i atal gyrwyr rhag newid lôn ar ôl pwynt penodol. Byddai cyflwyno'r dangosyddion lôn newydd hyn yn caniatáu i draffig lifo'n ddirwystr drwy'r twnelau ar gyflymder safonol y draffordd, gan sicrhau na fydd traffig yn cronni.
Un broblem y byddai'n rhaid mynd i'r afael â hi yw bod yna fynediad i'r M4 o Malpas tua'r dwyrain, ychydig cyn y twnelau. Byddai hwn yn cael ei gau'n barhaol, fel yr allanfa oddi ar yr M4 yn syth ar ôl y twnnel i draffig sy'n mynd tua'r gorllewin. Bydd unrhyw un sydd wedi teithio drwy Ewrop yn gwybod am dwnelau a all fod yn rhai milltiroedd o hyd, yn aml yn cynnwys sawl tro, ac eto ceir terfynau cyflymder o 100 cya arnynt. Yn aml, mae'r twnelau hyn yn cynnal llawer iawn o draffig tebyg i'r traffig ar yr M4, ond o fy arsylwadau helaeth dros flynyddoedd lawer o deithio drwy Ewrop, nid ydynt yn profi'r rhwystrau a welwn yn nhwnelau Bryn-glas. Rwy'n annog y Llywodraeth i roi ystyriaeth ddifrifol i fy argymhellion pan fyddaf yn eu cyhoeddi'n llawn.