Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 12 Mehefin 2019.
Cyhoeddodd Canada yr wythnos hon y bydd yn anelu i wahardd plastigion untro niweidiol erbyn 2021. Er clod iddi—ac nid wyf yn aml yn dweud hyn—mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau rhai cyfraddau ailgylchu trawiadol yng Nghymru, ond am y tro cyntaf yn 2017-18, gostyngodd cyfanswm y gwastraff a ailgylchwyd mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, fe wnaeth Cymru gymryd yr awenau drwy gyflwyno'r tâl am fagiau siopa plastig yn 2011, ond credaf ei bod yn deg dweud bod y polisïau arloesol hyn wedi bod braidd yn brin yn ddiweddar. Y Llywodraeth sy'n gwybod p'un a yw'n fater sy'n ymwneud â gallu neu arweinyddiaeth, ond mae'n amlwg i lawer fod angen inni wella yma yng Nghymru, ac nid cyfrifoldeb adran yr amgylchedd yn unig yw hynny, ond holl adrannau'r Llywodraeth.
Ddoe ddiwethaf, cefais nodyn gan etholwr a oedd wedi dychryn ynglŷn â'r lefel uchel o wastraff plastig a welir ar hyn o bryd ar draws y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, er enghraifft. Mae angen i ni gydgysylltu'r dull o weithredu ar draws y Llywodraeth gyda thargedau a strategaethau pwrpasol nad ydynt yn gadael dim heb ei wneud. A pham hynny? Oherwydd bod gwastraff plastig yn dianc i'n hamgylchedd yn gyflym iawn. Mae'n diraddio'n ficroblastigion a chaiff hyn ei amsugno'n hawdd wedyn i'r amgylchedd naturiol. Ni cheir dealltwriaeth dda o'r effaith a gaiff hyn ar ein bywyd gwyllt, ein hecosystemau a'n hiechyd dynol. Mae'r canlyniadau'n beryglus a negyddol i bobl a natur yma yng Nghymru.
Dengys hyn fod yn rhaid i ni wneud popeth a allwn i leihau'r defnydd o blastigion untro wrth i ni geisio gwella amgylchedd naturiol Cymru a lleihau effaith gweithgarwch dynol ar ein planed. Ac mae hynny'n dechrau gyda chryfhau ein cadwyni cyflenwi yma yng Nghymru er mwyn atal llygredd amgylcheddol rhag cael ei allforio i drydydd gwledydd a chadw hyder y cyhoedd.
Efallai eich bod wedi gweld rhaglen ddogfen y BBC ddydd Llun gyda Hugh Fearnley-Whittingstall, War on Plastic with Hugh and Anita. Datgelodd dystiolaeth frawychus am wastraff plastig ailgylchadwy o Gymru a oedd wedi'i allforio i'w ailgylchu ond a gafodd ei ddympio ym Malaysia mewn gwirionedd. Ymhlith llu o eitemau o'r DU, dangosodd darllediadau o'r rhaglen ddogfen fod bagiau ailgylchu o Rondda Cynon Taf yn rhan o'r gwastraff a gafodd ei ddympio, sydd wrth gwrs yn codi cwestiynau ynglŷn â chadwyn gyflenwi a strategaeth gaffael Llywodraeth Cymru. Mae pentwr o wastraff plastig 20 troedfedd o uchder ym Malaysia sydd wedi'i allforio o wledydd eraill yn warth ac yn amlwg yn annerbyniol, ac mae'n dangos nad ydym yn trin ein gwastraff yn briodol. Gwaethygwyd mater allforio llygredd amgylcheddol gan y ffaith bod Malaysia yn anfon bron i 3,000 tunnell fetrig o wastraff plastig na ellir ei ailgylchu yn ôl i'r lle y tarddodd ohono, gan gynnwys y DU, tra bod Tsieina wedi gwahardd mewnforio gwastraff plastig i'w ailgylchu yn ddiweddar oherwydd problemau amgylcheddol a achosir gan y gwastraff halogedig.
Mae'n hollbwysig fod gan y cyhoedd hyder yn y systemau rheoli gwastraff a bod gwastraff a gynhyrchir yng Nghymru yn cael ei drin mewn ffordd gyfrifol a bod gwastraff sy'n cael ei anfon i'w ailgylchu yn cael ei ailgylchu mewn gwirionedd. Does bosibl fod hwnnw'n uchelgais rhy fawr. Mae cronfa economi gylchol Llywodraeth Cymru yn gam i'w groesawu, ond fel nifer o gyhoeddiadau o'ch meinciau yn ddiweddar, ni chawn lawer iawn o fanylion ynglŷn â sut y caiff ei weithredu, ei fonitro a'i asesu.
Mae arbenigwyr ar yr economi gylchol, WRAP Cymru, wedi gwneud nifer o argymhellion gyda'r nod o greu mwy o dryloywder gwyrddach yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r rhain yn cynnwys sicrhau bod cynnydd pedwarplyg yn y capasiti ailbrosesu i oddeutu 200,000 tunnell y flwyddyn ac annog gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr i ddweud faint o blastig newydd neu blastig wedi'i ailgylchu y maent yn ei defnyddio yn eu prosesau. Yn eu barn hwy, bydd hyn yn lleihau'r gwastraff plastig a allforir y tu allan i Gymru i'w ailgylchu i 25 y cant. Fel y cyfryw, ar y meinciau hyn, rydym am weld Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar greu cadwyn gyflenwi gylchol sy'n gosod cynaliadwyedd a'r amgylchedd wrth wraidd prosesau'r gadwyn gyflenwi, gan gadw deunyddiau a chynhyrchion, a sicrhau eu bod yn cael eu hailddefnyddio i gyfyngu ar faint o adnoddau naturiol a ddefnyddir a'r allyriadau carbon a gynhyrchir. Ar ben hynny, rhaid cyfyngu ar allforio gwastraff er mwyn atal llygredd amgylcheddol rhag cael ei allforio i wledydd eraill, sy'n lleihau ymdrechion yng Nghymru i greu cymdeithas fwy gwyrdd a chyfartal. Dylai'r strategaeth hon amlinellu camau i leihau'r gwastraff a grëir yn y gadwyn gyflenwi, hyrwyddo prosesau mwy cynaliadwy yn y gadwyn gyflenwi, a lleihau'r broses o allforio gwastraff a materion amgylcheddol eraill er mwyn adfer hyder y cyhoedd.
Fel Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n falch o'r ffaith ein bod wedi arwain y ffordd yn ôl yn 2015, gan alw am gynllun dychwelyd blaendal ar boteli. Yn anffodus, tua phedair blynedd yn ddiweddarach, nid ydym wedi gweld cymaint o gynnydd yn y maes hwn ag yr hoffem fod wedi'i weld, ac ar y meinciau hyn, mae bellach yn hanfodol fod y Llywodraeth yn dangos mwy o uchelgais. Mae angen i ni newid o fod yn gymdeithas wastraffus a glanhau ein strydoedd a'n hamgylchedd, ein traethau a'n hafonydd. Bydd cynllun dychwelyd blaendal yn effeithio'n eang ar gynyddu cyfraddau ailgylchu, lleihau allyriadau a helpu i leihau defnydd anghynaliadwy o adnoddau a deunyddiau naturiol. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda chydweithwyr yn San Steffan a'r seneddau a chynulliadau datganoledig eraill i helpu i ddileu gwastraff y gellir ei osgoi drwy sicrhau gwaharddiad ar gyflenwi gwellt plastig, ond gan eithrio unigolion sydd ag anableddau; atal y cyflenwad o ffyn cotwm plastig, ac eithrio at ddefnydd gwyddonol; a gwahardd trowyr diodydd. Fel Ceidwadwr, mae'r gair 'gwaharddiad' yn gyrru ias i lawr fy nghefn, ond rydym yn cyrraedd pwynt na ellir troi nôl ohono.
Ni allwn dincran o gwmpas yr ymylon mwyach. Mae angen i'r Llywodraeth weithredu ar frys ac yn bendant i fynd i'r afael â llygredd plastig a diogelu ein hamgylchedd. Mae angen inni arwain ac mae angen inni fynd â'r cyhoedd gyda ni, ac mae angen i gyrff cyhoeddus mawr a diwydiant gefnogi hyn. Yn aml, ni chaiff eitemau plastig eu defnyddio am fwy nag ychydig funudau'n unig, ond maent yn cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddadelfennu, gan gyrraedd ein moroedd a'n cefnforoedd a niweidio ein bywyd morol gwerthfawr. Ni allwn fodloni ar wneud dim bellach. Felly, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi'r cynnig sydd ger eu bron heno a chefnogi'r hyn y ceisiwn ei wneud, sef trosglwyddo amgylchedd gwell i'r genhedlaeth nesaf na'r un a etifeddwyd gennym.