7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Lleihau Gwastraff Plastig

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 5:46, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf wneud y cynnig hwn y prynhawn yma a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Rydym yn y cyfnos ar brynhawn dydd Mercher, ond rwy'n falch o weld bod Aelodau o bob plaid wedi aros ar gyfer y ddadl y prynhawn yma. Os caf ymdrin â'r gwelliannau yn gyntaf, yna fe symudaf at brif ran fy araith.

Yn anffodus, mae'r Llywodraeth wedi dychwelyd at ei harfer o ffurfio gwelliant 'dileu popeth'. Nid wyf yn hollol siŵr pam y mae angen dileu ein cynnig cyfan, ac yna rydych yn cymryd dau bwynt o'r cynnig hwnnw ac yn eu mewnosod yn eich gwelliant. Mae hynny'n ymddangos braidd yn rhyfedd i mi. Ar welliannau Plaid Cymru, rydym yn hapus i gefnogi'r cyntaf o welliannau Plaid Cymru, a byddwn yn ymatal ar yr ail, nid am ein bod yn anghytuno â'r gwelliant hwnnw ond am ein bod yn ansicr a yw'r dechnoleg yno i gyflawni'r dyhead hwnnw mewn gwirionedd. Os gallwch ein hargyhoeddi o hynny ym mhwyntiau llefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma, byddwn yn hapus i'w gefnogi, ond ar hyn o bryd nid ydym yn credu bod y dechnoleg yno i'w symud yn ei flaen.

Felly, i symud ymlaen, mae'r cynnig heddiw'n dweud bod hwn yn fater sy'n ennyn sylw'r cyhoedd yng Nghymru ac yn un y mae'n rhoi pwysau cynyddol arnom ni fel gwleidyddion i fynd i'r afael ag ef. Dengys yr arolygon barn diweddaraf fod mwyafrif llethol o'r cyhoedd yn pryderu am y defnydd o blastig ac yn rhannol, cafodd hynny ei sbarduno gan gyfres wych ac addysgiadol Blue Planet David Attenborough, sydd wedi tynnu sylw at effaith gynyddol niweidiol sbwriel plastig ar ein hamgylchedd naturiol.

Yn anffodus, nid oes ond rhaid ichi edrych dafliad carreg o Fae Caerdydd ei hun i weld y lefelau sylweddol o blastig sy'n mynd i mewn i'n hamgylchedd morol, ac mae'n amlwg, fel gwleidyddion, fod gennym ddyletswydd i weithredu. Yn wir, canfu astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd fod un o bob dau o bryfed yn system afon Taf yn cynnwys microblastigion, a cheir tystiolaeth fod y gronynnau microblastig hyn yn cael eu llyncu gan adar afon. Ni all fod unrhyw amheuaeth fod plastig yn achosi hafoc yn ein hamgylchedd, yn cael effaith ofnadwy ar anifeiliaid a bywyd gwyllt ac yn diraddio ein cynefinoedd mwyaf gwerthfawr.

Ac nid yw'n gyfyngedig i fywyd morol. Mae hefyd yn cael effaith andwyol ar ein strydoedd a'n cymdogaethau. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn gweithredu yn awr i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn ac i leihau'r miliynau o boteli plastig y gwelwn yn cael eu taflu bob dydd heb eu hanfon i'w hailgylchu. Mae angen i ni addysgu a sicrhau newid mawr yn ymddygiad ac arferion pobl. Heb weithredu ar frys i leihau'r galw, amcangyfrifir y bydd 34 biliwn o dunelli o blastig wedi cael ei gynhyrchu yn fyd-eang erbyn 2050.

Golyga oes silff plastigion y gallant bara am ganrifoedd mewn safleoedd tirlenwi neu fel arall, fel sbwriel yn yr amgylchedd naturiol. Yn ei dro, gall lygru priddoedd, afonydd a chefnforoedd a niweidio'r creaduriaid sy'n byw ynddynt. Mae yn y pysgod a fwytawn; mae hyd yn oed yn y dŵr potel rydym yn ei yfed. Mae'r amcangyfrifon yn amrywio, ond mae'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd a Phrifysgol Coventry yn amcangyfrif bod 14 miliwn o ddarnau o blastig yn cyrraedd afonydd a chamlesi Prydain bob blwyddyn, gydag oddeutu 0.5 miliwn o eitemau o blastig yn cael eu cario i'r cefnfor.

Credaf ein bod i gyd yn cytuno yn y Siambr hon mai rhan allweddol o'n cenhadaeth fel ACau yw gadael yr amgylchedd a'n gwlad mewn cyflwr gwell. Ar lefel y DU, mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi cymryd camau breision i fynd i'r afael â phla plastigion, drwy ei chynllun amgylcheddol 25 mlynedd, sydd wedi cyflwyno mesurau pwysig, megis y gwaharddiad ar ficrobelenni mewn cynhyrchion gofal personol a chynnyrch coluro, a gwaharddiad ar wellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm. Ac er bod lefel dda o gydweithredu rhwng y ddwy Lywodraeth ar y materion hyn, mae'n amlwg y gallwn fod yn gwneud mwy yng Nghymru.

Fel yr amlygwyd ddoe gan yr aelod diweddaraf o rengoedd y gwrthbleidiau, yr Aelod dros Flaenau Gwent, nad yw gyda ni heddiw yn anffodus, a ddywedodd ei bod yn ymddangos bod Cymru'n cael trafferth yn y maes polisi penodol hwn yn ddiweddar, ac y gallem ac y dylem fod yn llawer mwy uchelgeisiol. Oherwydd er fy mod yn cefnogi cyflawniadau Llywodraeth y DU ar lwyfannau polisi, rwyf am weld Cymru yn arwain o'r blaen ar y mater hwn, ac ar hyn o bryd, rydym ar ei hôl hi yn mynd i'r afael â'r broblem, nid yn unig o gymharu â gweddill y DU, ond o gymharu â gwledydd eraill ar draws y byd.