7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Lleihau Gwastraff Plastig

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 5:56, 12 Mehefin 2019

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, ac mae’n bleser bod yn rhan o’r ddadl bwysig yma ar blastigau ar ôl agoriad da iawn yn fanna gan Andrew R.T. Davies. Wrth gwrs, fel plaid, rydym ni’n edrych i gyfoethogi’r cynnig gerbron gyda dau welliant. Mae'r cyntaf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’i phwerau i ddiweddaru canllawiau cynllunio gwyliau a thrwyddedu er mwyn cael gwared â phlastigau untro. A’r ail welliant ydy, eto, ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig sydd yn galw am wahardd deunydd pacio bwyd plastig na ellir ei ailgylchu neu nad yw’n fioddiraddiadwy a fyddi’n cynnwys deunydd pacio polystyren a ffilm blastig yn ogystal—galw am wahardd y rheini a phlastigau untro.

Achos mae yna her sylweddol. Ac, wrth gwrs, mae Andrew, fel minnau, yn aelod o’r pwyllgor newid hinsawdd sydd newydd gyhoeddi adroddiad yr wythnos yma, a dweud y gwir—y pwyllgor newid hinsawdd yma yn y Senedd—ar lygredd plastig, sydd yn amlinellu bod llygredd plastig yn un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu ein planed. Dyna eiriau cyntaf rhagair y Cadeirydd yn fan hyn achos mae meicroblastigau ym mhob man. Ac wrth gwrs cefndir hyn oll ydy bod Llywodraeth Cymru yn ddiweddar wedi cyhoeddi argyfwng hinsawdd, yn naturiol, ac o wneud y fath gyhoeddiad, mae angen camu i fyny wedyn i fod yn weithredol. Nid mater o ddim ond cyhoeddi argyfwng hinsawdd; mae angen gwneud rhywbeth cyffredinol amdano fe. Mae’r adroddiad yma gan y pwyllgor newid hinsawdd yn nodi’n gyffredinol ein bod ni’n siomedig fel pwyllgor nad yw’r Llywodraeth yn y gorffennol wedi mynd i’r afael â maint y broblem yma, yn enwedig yn nhermau plastigau.

Doeddwn i ddim yn mynd i olrhain nifer o’r pwyntiau mae Andrew eisoes wedi’u holrhain, ac, wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi gweld y rhaglenni teledu, megis 'Y Blaned Las' ac ati, a’r rhaglen yna nos Lun wnaeth ddarganfod llygredd plastig o Rhondda Cynon Taf yng nghefn gwlad Malaysia. Dim ond i ganolbwyntio ar sgil-effeithiau darnau bach, bach iawn o blastig sydd yn her gynyddol i’n hiechyd ni fel pobl. Mae yna gryn dipyn o astudiaethau yn mynd ymlaen sydd wedi darganfod bod meicroblastigau—darnau bach iawn—a nanoblastigau, sydd yn ddarnau bach hyd yn oed yn llai, yn ymdreiddio i bob lle. Maen nhw yn ein priddoedd ni, maen nhw yn ein hafonydd ni, maen nhw yn ein moroedd ni ac maen nhw hyd yn oed yn rhew môr yr Arctig. Dyna’r dystiolaeth cawsom ni o flaen y pwyllgor. Ac o ymdreiddio i bob man, mae’r meicroblastigau yma, felly, yn ymddangos yn ein bwydydd ni, beth dŷn ni'n bwyta; yn yr awyr dŷn ni'n ei anadlu—mae'n rhan o lygredd awyr. Achos mae'r nanoblastigau yma mor fach, rŷch chi'n cael nhw, hyd yn oed, ar rwber ein teiars ni, sydd yn cynhyrchu nanoblastigau sydd yn ymddangos wedyn fel llygredd awyr. Dŷn ni'n anadlu'r nanoblastigau yma i mewn i'n cyrff,  i mewn i'n hysgyfaint ni, ac maen nhw mor fach, fach, nid yn unig mae'r nanoblastigau yma'n ymdreiddio i'n hysgyfaint ni, maen nhw'n ymdreiddio hefyd i mewn i gylchrediad y gwaed achos maen nhw mor fach. Ac mae'r plastig, felly, yn ein gwaed ni a hefyd, felly, yn ein calonnau ni, fel cynifer o ronynnau bychain iawn eraill, nid jest plastigau, ond mae maint gronynnau bach sydd yn rhan o lygredd awyr, maen nhw mor fach, rŵan, eu bod nhw'n ymdreiddio i bob rhan o'n cyrff ni.

Wedyn, mae yna her sylweddol yn fan hyn o fater iechyd cyhoeddus ac mae angen i Lywodraethau ym mhob man gamu i fyny at y plât. Achos mae yna her uniongyrchol i iechyd y cyhoedd yn fan hyn; mae angen i Lywodraeth Cymru, wedi datgan bod yna argyfwng hinsawdd, gwneud rhywbeth gweithredol ynglŷn â'r peth, ac mae'n rhaid ei bod o ddifrif ynglŷn â chael gwared ar blastig. Rhaid edrych ar blastig fel y gelyn, ac, yn bendant, mae angen cael gwared ar ddefnyddio plastigau untro a hefyd mae angen mynd i'r afael â deunydd pacio polystyren a ffilm plastig ym mhob man. Dydy allforio i wledydd dros y byd i gyd ddim yn ateb y broblem; mae'n rhaid ei daclo fe yn fan hyn a gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio llawer iawn yn llai, gyda'r bwriad, yn y bôn, o gael gwared ar y defnydd o blastig yn y pen draw. Ond, wrth gwrs, fel mae Andrew wedi cyfeirio ato, maen nhw'n para am flynyddoedd, canrifoedd. Mae yna her gyda ni i ddelio â'r plastig dŷn ni eisoes wedi'i greu. Diolch yn fawr.