Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 18 Mehefin 2019.
Prif Weinidog, croesawyd y cyhoeddiad o raglen fuddsoddi gwerth £100 miliwn yng Nglynebwy, ym Mlaenau Gwent, yn nyfodol economi Blaenau Gwent, gan bobl o fewn y fwrdeistref ac ar draws Blaenau'r Cymoedd. Mae'n dangos ymrwymiad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i economi Glynebwy a Blaenau Gwent, ac mae hefyd yn dangos bod ffydd gwirioneddol ym Mlaenau'r Cymoedd fel man lle y gallwn gyflawni busnes. Prif Weinidog, a allwch chi amlinellu i ni heddiw sut yr ydych chi'n disgwyl gweld y rhaglen Cymoedd Technoleg yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf a phryd yr ydych chi'n credu y bydd pobl Blaenau Gwent yn gweld manteision y rhaglen hon o fuddsoddiad?