Mawrth, 18 Mehefin 2019
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Delyth Jewell.
1. Beth yw'r broses y mae Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i wyrdroi penderfyniad gan bwyllgor cynllunio awdurdod lleol i wrthod caniatâd cynllunio? OAQ54087
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rhaglen Cymoedd Technoleg? OAQ54047
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Canol De Cymru am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ54034
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo hanes lleol yng ngogledd Cymru? OAQ54048
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio caffael cyhoeddus i gryfhau busnesau lleol? OAQ54039
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y system gynllunio yng Nghymru? OAQ54076
8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn Nwyrain Abertawe yn dilyn y datgniad am yr argyfwng newid hinsawdd? OAQ54030
9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer banc cymunedol i Gymru? OAQ54058
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau cydraddoldeb Llywodraeth Cymru? OAQ54081
2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog amlinellu pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ54035
3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ddiogelwch cymunedol yn ne-ddwyrain Cymru? OAQ54085
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau ei bod yn cydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ54044
5. Pa asesiad mae'r Dirprwy Weinidog wedi ei wneud o gyflogau merched yn Ynys Môn? OAQ54073
6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am yr hyfforddiant sydd ar gael i adnabod a mynd i'r afael â rheolaeth drwy orfodaeth? OAQ54086
Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi’n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau, ac, yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 ac 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau yn cael eu grwpio...
Ac mae'r eitem nesaf hefyd yn ymwneud â chynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau, ac dwi'n cynnig bod y cynigion yma hefyd yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod a'u pleidleisio. Dwi'n galw ar...
Sy'n dod â ni at y datganiad nesaf, sef y datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru). Dwi'n galw ar y...
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar aer glan. Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
Diolch. Rwy'n mynd i symud ymlaen yn awr at eitem 5, datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Camau nesaf y gweithgor ar lywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog i agor y ddadl.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Addysg ar Wythnos Addysg Oedolion, a dwi'n galw ar y Gweinidog Addysg i wneud ei datganiad. Kirsty Williams.
Daw hynny â ni at eitem 7, ond mae eitem 7 wedi ei dynnu yn ôl. Felly, mae hynny'n dod â ni at ddiwedd ein trafodion am y dydd heddiw. Diolch i chi.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith economaidd y bwriad i gau ffatri beiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia