Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 18 Mehefin 2019.
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae e'n iawn i gyfeirio at y nifer uchelgeisiol o swyddi yr ydym ni eisiau eu creu o ganlyniad i'r rhaglen Cymoedd Technoleg. Disgwylir swyddi adeiladu yn y misoedd i ddod, ceir y prentisiaethau yr wyf i eisoes wedi cyfeirio atynt, a bydd y buddsoddiad hwnnw yr ydym ni eisiau ei wneud yn nhirwedd y gymuned honno yn y cymoedd er mwyn manteisio i'r eithaf ar yr asedau naturiol enfawr sydd ganddi. Bydd Gweinidogion yn adrodd yn rheolaidd yn y fan yma, Llywydd, ar hynt y rhaglen. Rwyf i bob amser yn falch o ateb cwestiynau amdani, a gwn fod fy nghyd-Aelod Ken Skates yn adrodd yn rheolaidd i Aelodau ar sut y mae'r rhaglen, sy'n rhaglen 10 mlynedd, â £100 miliwn i'w chefnogi, yn cael ei darparu ar lawr gwlad.