Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 18 Mehefin 2019.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Dirprwy Weinidog. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod wedi cymryd cwestiwn ar yr agwedd benodol hon ychydig wythnosau'n ôl. Ond ynghylch y dyfarniad a roddwyd gan y barnwr—Mrs Ustus Lambert ar y pryd—dywedodd fod y Bil yn fwriadol amwys, cyffredinol a dyheadol ac sy'n berthnasol i ddosbarth yn hytrach nag unigolion.
Mae'r Bil rhyw bedair blwydd oed erbyn hyn. Mae'r dyfarniad hwnnw wedi'i wneud. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw syniadau ynghylch sut y gallan nhw gryfhau'r ddeddfwriaeth, fel ei bod yn dod yn fwy penodol ac yn berthnasol i unigolion, yn hytrach na grwpiau? Oherwydd, yn amlwg, mae llawer o bolisïau'r Llywodraeth wedi newid yn ystod y pedair blynedd honno, yn enwedig ym maes yr amgylchedd. Ac rydym wedi clywed heddiw, yng nghwestiynau'r Prif Weinidog, am y system gynllunio—mae Bil cenedlaethau'r dyfodol yn berthnasol iawn yn y maes penodol hwnnw. Felly o gofio'r newid yn yr amgylchiadau, a'r dyfarniad sydd wedi'i roi, a allwch chi gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ychwanegu at y darn hwnnw o ddeddfwriaeth?