Part of the debate – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 18 Mehefin 2019.
Trefnydd, fel llefarydd Plaid Cymru ar lywodraeth leol, dwi'n ymwybodol iawn o'r pwysau ariannol ar gyllidebau awdurdodau lleol. Yn wir, dyna pam roeddwn i'n pwyso ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o arian i'n cynghorau sir ni rai misoedd yn ôl. Fodd bynnag, yn ddiweddar yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae cynigion wedi cael eu cyflwyno i gynyddu taliadau am gludiant ôl-16 yn sylweddol iawn, o £100 y flwyddyn i £390 y flwyddyn. Yn amlwg, bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar deuluoedd ledled y sir, ond bydd yn cael effaith arbennig ar unig ysgol gyfrwng Gymraeg y sir, sef Ysgol Gyfun Ystalyfera Bro Dur, ac unig ysgol ffydd y sir, sef Ysgol Gyfun Gatholig San Joseff. Gyda disgyblion yn teithio'n draddodiadol i'r ysgolion hyn o bob cwr o'r sir, bydd y teuluoedd hyn yn cael eu taro'n fwy na'r mwyafrif. Rwyf i, ynghyd â'm cyd-Aelod rhanbarthol Bethan Sayed, eisoes wedi derbyn sylwadau gan deuluoedd sy'n anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg a'r pryderon sydd ganddynt yn hyn o beth, a dŷn ni wedi ymrwymo i gefnogi eu hachos.
Nawr, dŷn ni'n gwybod bod gan Lywodraeth Cymru darged o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac er mwyn cyrraedd y targed hwnnw, bydd angen i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wneud addysg Gymraeg yn hygyrch ledled Cymru. Mae'r cynnig hwn gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwneud y gwrthwyneb. Wrth benderfynu ar addysg eu plentyn, mae'n siŵr y bydd rhieni'n cael eu dylanwadu gan y gost sy'n gysylltiedig â hi, ac mae perygl gwirioneddol y bydd rhieni'n dewis anfon eu plant i'r ddarpariaeth agosaf—cyfrwng Saesneg—yn hytrach nag anfon disgyblion i Ystalyfera. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno datganiad ar yr hyn mae'n bwriadu gwneud i sicrhau nad yw addysg Gymraeg yn cael ei roi dan anfantais yn y modd yma, ac a fyddwch yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth genedlaethol ar fater trafnidiaeth er mwyn rhoi chwarae teg i'r Gymraeg? [Torri ar draws.]