Part of the debate – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 18 Mehefin 2019.
A gaf i ofyn i chi ysgrifennu yn y lle cyntaf at y Gweinidog iechyd yn amlinellu'r pryderon yr ydych chi wedi eu codi? Rwy'n siŵr y bydd yn falch o roi sylw iddynt gyda'r bwrdd iechyd. Bydd y Gweinidog yn cyflwyno datganiad ar adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal critigol ar 2 Gorffennaf, a chredaf y byddai hwnnw'n gyfle priodol, hefyd, i gael y trafodaethau hyn ar lawr y Cynulliad.