2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 18 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 3:09, 18 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog trafnidiaeth a'r economi am fetro gogledd Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion yr hyn a alwyd yn brosiect metro gogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau yn 2017 i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd. Heddiw, mae'r papur newydd lleol, The Leader, wedi cyhoeddi sylwadau a wnaed gan arweinydd Llafur newydd Cyngor Sir y Fflint, Ian Roberts, yn dilyn sylwadau a wnaed ganddo yn ystod cyfarfod yn Neuadd y Sir, lle mae'n dweud mai trafodaethau cyfyngedig yn unig a gafwyd ynghylch sut y byddai prif rannau'r prosiect yn cael eu gweithredu, bod,

Trafnidiaeth a Metro Gogledd Cymru yn fusnes anorffenedig gyda Llywodraeth Cymru a'i fod yn meddwl   ei bod o ddiddordeb arbennig gofyn yn wirioneddol i Lywodraeth Cymru beth yw eu bwriadau ar gyfer Metro Gogledd-ddwyrain Cymru.

Yn amlwg, os yw'r galwadau hynny nid yn unig yn dod yn fwy cyffredinol ond yn benodol gan arweinydd cyngor Sir y Fflint, sy'n digwydd bod yn aelod o'ch plaid, rwy'n gobeithio y byddech chi'n cytuno bod hynny'n haeddu ymateb cyhoeddus.

Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar gamddefnyddio alcohol ymhlith pobl hŷn yng Nghymru? Bythefnos yn ôl, noddais a siaredais yn y digwyddiad lansio siarter 'Calling time for change' Yfed Doeth Heneiddio'n Dda a gynhaliwyd yn adeilad Pierhead y Cynulliad. Nod hyn yw lleihau'r niwed a achosir gan alcohol ymhlith oedolion hŷn ledled Cymru, gan weithio gydag aelodau o grŵp eiriolaeth y siarter, pob un ohonynt yn wirfoddolwyr sydd â phrofiad byw o alcohol. Ar ôl dod at ei gilydd am y tro cyntaf fel grŵp eiriolaeth, mae'r siarter yn benllanw deuddeng mis o'u gwaith caled. Un ethos pwysig yn y rhaglen yw na ddylai pobl fod yn dderbynwyr cymorth goddefol yn unig, ond yn gyfranogwyr gweithredol yn llesiant a gwellhad eu hunain a phobl eraill. Yr hyn sy'n peri pryder yw bod yr adroddiad yn dweud, wrth fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran mewn polisi, ymarfer ac ymchwil alcohol, eu bod wedi canfod bod mwy na 4 miliwn o Brydeinwyr dros 50 oed yn meddwl y dylent leihau faint o alcohol y maen nhw'n ei yfed, ac yng Nghymru, y rhai 65 oed a hŷn yw'r unig grŵp oedran lle mae yfed uwchlaw'r canllawiau dyddiol yn cynyddu. Unwaith eto, galwaf am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd yn unol â hynny. Diolch.